Posts

Showing posts from September, 2009

Not such a great wythnos

Sori am y bad Welsh yn y teitl, ond wy'n twmlo fel bad Welsh ar y funud. WYthnos itha gwael hyd yn hyn. Nes i ddim sôn yn y postiad dydd Llun bod cwpl o Gymru (y ddau'n wreiddiol o'r gogledd ond yn byw yng Nghaerdydd ers sbel), odd yn digwydd bod yn yr ardal wedi dod i'r Gymanfa bnawn dydd Sul. Wel i dorri'r stori'n fyr, gath y wraig aneurism ar i hymenydd ac aethpwyd a hi mewn hofrennyd i'r ysbyty yn Huntiongton , ar ôl iddi fod yn yr ysbyty lleol fan hyn. So prynhawn Llun ath Jeanne a fi i Huntington i ôl y gwr i ddod a fe nol fan hyn i ôl eu car nhw o'r motel, tra bod hi'n cael llawdriniaeth. Heb glwyed dim ers 'ny, so wy'n gobeithio i bod hi'n oce, a dos dim ffôn symudol gyda fe so allwn ni byth cysylltu gyda fe i weld os yw hi'n oce. So odd dydd Llun yn itha ryff rili. Wedyn ddoe, ar ôl cino, dath e-bost o Goleg y Drindod yn gweud bod dim myfyrwyr yn mynd i ddod draw ym mis Ionawr. Sy'n golygu bydd siŵr o fod r'un faint o

y Gymanfa

Fel ma rhai ohonoch chi'n gwybod, a rhai ohonoch wrth reswm felly ddim yn gwybod - fues i'n arwain Cymanfa Ganu ddoe yng Nghapel Tyn Rhos, Thurman, Ohio. Randym iawn rhaid gweud. Wy erioed wedi cael cyfle i arwain côr (diolch i anji parcky, neu Angharad Parchus i roi i henw llawn iddi), so odd arwen cymanfa yn od iawn. Odd dwy sesiwn, un am 10.30am, wedyn cinio, a wedyn sesiwn prynhawn am 1pm. Cyn y Gymanfa, bues i yn Gallpolis yn yr Holiday Inn yn cael bwyd gydag amryw bobl odd yn ymwneud â'r Gymanfa; gan gynnwys Evan a Bet Davis a Joan Owen Mandry (syn gefnither i Eirlys sy'n mynd i Gwaelod y Garth gytre. On i'n gwbod bod cefnither gyda Eirlys mas ma, ond ddim yn gwybod pwy odd hi nes i fi siarad gyda Joan nos Sadwrn!). So dydd Sul - es i i'r capel yn gynnar (ma fe jest lan yr hewl - nes i bostio am fynd am wâc lan na a thynnu llunie fan hyn - nôl ym mis Gorffennaf), wedi cael allwedd gan Evelyn y landlord y dwrnod cynt. On i na erbyn 9am, er mwyn cael 'f

annwyd o hyd

Yn ôl mam odd y postiad dwetha na'n suicidal! Odd e ddim i fod gyment fel ny rili!! Just wedi cal digon ar fod yn y gwaith o 8-5 (ac aros yn hwyrach os wy'n sgeipo), a dim gwaith i'w wneud mewn gwirionedd. On i ddim yn y gwaith ddoe nac echddoe (wel es i gytre am 11am ar ôl gwers fer gyda'r boi dysgu Cymraeg). A dos dim byd da fi i ddala lan da fe - sy'n dangos cynlleied sydd i'w wneud ma. Ma rhaid i fi neud peth ymchwil ar gyfer y Cymanfaoedd dydd Sul (jest bach o hanes ar yr emynwyr/cyfansoddwyr), a wy'm yn gwbod os wy'n hollol dishgwl mlan achos wy eriod wedi gwneud y fath beth o'r blan. Sai hyd yn od wedi arwen côr rili. Ta beth, os os unrhyw tips da unrhywun - gadwch i fi wbod. Wy wedi cal un yn barod 'just esgus mai ti yw Alun Guy' - lle da i ddechre weden i!! Wy hefyd yn canu unwad - but the less said about that the better fi'n credu.... Ar ôl y Gymanfa dydd Sul, ma cyfweliad Radio da fi dydd Mawrth. Wel ma fe'n cal i recordio

bw his

sai'n credu bodneb braidd yn darllen hwn, so smoi'n siwr pan wy'n boddran. Sdim lot da fi wedu heddi, fel arfer. Annwyd dal ma ac yn mynd ar yn nerfe i. Ma'n mynd ar yn nerfe i fyw gan mod i'n gwaith yn neud dim gwaith gan bod di rili gwaith da fi i wneud. A bydde man a man bo fi gytre, ond na ni, dim ots. Ma'r tywydd yn ddiflas ma ar hyn o bryd fyd, nage bod ots achos smo i'n cal cyfle lot o fynd mas i'r tywydd, ond wedi gweud ny, allen i sen i rili moyn sbos. ta beth. Wy'm yn lico nofio traq bod annwyd da fi, ddim yn neis iawn, so trial ffindo rhwbeth arall i neud....awgrymiade?

di-bwer

Heb flogio ers y penwythnos. Nes i fennu lan ddim yn mynd mas am ddrinc da Llio nos Sadwrn wedi'r cyfan chos mod i'n idiot, ond llai am ny. Ges i amser hyfryd yng Ngholumbus, a odd e'n gret gweld Llio a chwrdda'i ffrind hi Chloë sydd wedi cynnig i fi fynd i'w gweld hi lan yn Cleveland ddiwedd mis nesa. So ta beth. Gethon ni doriad yn y pŵer heddi. Yn ôl y sôn odd na linell drydan ar dân, a fuodd e bant am bwyti awr a hanner. Wedyn fe ddychwelodd. Gwd ow, ond bach o egseitment ddiwedd haf (hydref rili ond ma hi'n braf ma!!)! Ma'r trydan yn diflannu ma yn itha aml dros y gaeaf yn ôl pob tebyg, a wy ddim yn hollol siŵr be fydd yn digwydd bryd ny, chos trydan sy'n rheoli popeth yn yn fflat fach i, dim ond un heater nwy ben y stâr sy na! hmmmm, so croesi bysedd am i ni beidio â chlli trydan weden i!! Wy bant gytre nawr i gal nof fach. Wy ddim yn neud lot, ond wy'n trial nofio bob nos, gan obitho adeiladu lan faint fi'n neud. Dyw e ddim yn lot, fel fi&

mwy o Columbus

Gwrddes i lan da Llio heddi. Odd e'n rili rili rili neis gweld hi. On i wedi meddwl falle mynd i gwrdda hi a'i ffrindie am ddrinc heno, ond fel nithwr, ar ôl bod yn ishte yn gwely yn wocho tledu am sbel, on i rili ddim yn y mwd i ddod mas o'r gwely yn anffodus. Ac odd hi'n 10.30. Mynd i gwrdda nhw am frecwast bore fory ta beth, cyn heado nol am gytre. Wedi bod yn gwarnado ar, ac yn darllen am Gynhadledd Plaid yn Llandudno hefyd heno. Araith Adam yn rhif 1 o'r top 5 read articles ar y BBC ar un pwynt heno. a ma fe'n araith wyth. So allwch chi wrando arno fe via blog ordovicius . Y gynhadledd yn dishwgl fel llwyddiant ysgubol chware teg. Ewch i plaidbyw.com i gael pip ar lunie, fideos, blogiade a diweddariadau twitter o'r gynhadledd. Co obitho byddai'n llu ffindo'r ffordd gytre fory more dda a ffindes i'r ffordd ma!

Columbus

Wedi cyrraedd Columbus yn saff a heb fynd ar goll unwaith so wy'n hen ddigon hapus!Off mas i gal bwyd nawr, a falle nai gwrdda Llio am ddirinc wedyu nos yw hi'n llu ffindo mas le ma'r bar ma nhw'n mynd iddo ac os odw i'n llu ffindo ffordd na. taxi etc!! Brynes i gps. dodd e ddim yn gwitho. wy'n mynd i ffidlo da fe wedyn mynd a fe nol os nagyw e'n gwitho. hmff. $50 odd e, ond ddyle fe oleia gwitho!!! Ypdêt - Wedi cael bwyd oce mewn restaurant dissapointing. Fast food odd e, a finn'en dishgwl bwyty!! fi'n dwp dife!! Odd Llio wedi trial trefnu i fi fynd i gwrdda nhw y y bar on nhw'n myund i ar ôl y rihyrsal dinyr, ond odd e'n 20 munud o fan hyn, ddim yn practical. Just as well rili chos on i yn y gwely ac yn dechre twmlo'n flinedig! Yr ystafell yn hyfryd ac yn enfawr! Nai dynnu llunie!

Llunie

Wele luniau newydd ar Picasa o'r daith i Pittsburgh (linc ar y chwith uwchben y pysgod!). Ma'r tywydd yn crap ma heddi. Niwl ymhobman ers yn gynnar bore ma, a ma fe dal ma am 11.30! Wy'n clywed eich bod chi i gyd nôl yng Nghymru fach yn cael tywydd hyfryd, haf bach Mihangel (chi deffo'n haeddu fe!). Dim lot mwy i weud am nawr - cewch i weld y llunie!!

wedi Pittsburgh

Wel ges i ddim lot o gyfle i flogio ar ôl pnawn dydd Gwener. Dyma grynodeb byr!! Banquet Nos Wener - Distaster. Dim y bwyd on ni wedi archebu ar ôl i'n bwrdd ni. Gethon ni ddwy botelaid o win yn lle (costio $65 yr un!!!), ond odd e dal yn siambles! Gwyndaf Jones (tenor o Gymru yn byw yn Nhoronto) odd yr enterteinmynt. On i lan nes 3am, a wedyn odd angen codi am 7am i fynd i frecwast Ninnau am 7.30. un gair - strygl! Dydd Sadwrn - i'r Catherdral of Learning ym mhrifysgol Pittsburg - sdafelloedd yn dynodi gwahanol ieithoedd a threftadaethu. Odd yr ysatafell Gymraeg braidd yn ddiflas rhaid dweud, ond odd rhai o'r ystafelloedd eraill yn wych - lluniau ar y ffordd. Ar y ffordd nol odd 'tour guide' yn gweud pethe ridicilys. Odd e'n gweud am ferch 16 briododd ddyn 43, odd rhwbeth i neud da beth odd enw'r ardal on ni'n gyrru drwyddo fe "she had 9 children; 3 boys and 3 girls." A na ni. od iawn! Cyngerdd Côr Cymry Gogledd America yn y nos. Wy'n cre

Pittsburg part one!

Gymrodd hi bwyti 5 awr i yrru i Pittsburg o Rio Grande ddoe, gan gynnwys sdopo i gael bwyd ayb, a ffindon ni bopth yn hawdd iawn. Checo mewn, gin bach yn y bar wedyn Dafydd Iwan ac Ar Log. Odd y cyngerdd yn rili dda. Blue Rinse Parade central tho, pobl braidd yn ddiflas, on i'n twmlo fel alci gyds Jeanne yn cal cwpwl o gwrws! Gwrddes i da boi odd yn nabod Alun Guy (odd e di bod draw yng Nghymru yn aros da fe Gaeaf dwetha, ac odd e yn y Plymouth Arms ar yr un noson ag odd Côr Caerdyddd na ar ôl canu yn Sain Ffagan!!). Odd e hefyd yn adna bod R. Alun a Rhiannon ac odd e (R. Alun) wedi bod mas yn aros gyda fe, ac am fynd nol i bysgota am Bass!! Radnom ond great! Odd hi'n rili neis gweld cymaint o bobl sydd basically yn Americanwyr, (Americans of Welsh Descent), a ddim yn siarad Cymraeg yn gwrando ac yn mwynhau Dafydd Iwan ac Ar Log. Ac yn canu'r anthem. Odd e'n neud i fi feddwl, pam nad os mwy o bobl yng Nghymru yn gwerthfawrogu'u diwylliant fel hyn, pobl di-Gymraeg hy

ppp (pre-Pittsburg post!)

Wel er bo fi i fod i of dyn dysgu Cymraeg o ryw fath i un boi yn y Brifysgol, smo fe di troi lan o gwbl to, ar wahan i'r cyfarfod cynta lle on ni'n ffindo mas beth odd e'n wbod. Ddim yn siŵr os yw e'n actialwi'n dost ne bido. Dim ots ta beth, chos on i'n gwbod bod e ddim rili ishe neud hwn, a'i fod e'n neud e er mwyn graddio'n unig, so na ni! Ma gwefan Canolfan Madog nawr yn ddwyieithog, so os y'ch chi ishe mynd draw i weld y gampwaith, ewch i www.madog.rio.edu/cy neu www.rio.edu/madog.cy ! Byddwn ni'n lansio'r wefan ym Mhittsburg yn y Ngŵyl Cymru Gogledd America. Na'i gyd sda fi i'w weud nawr, ar wahân i....ewch fan hyn os y'ch chi'n ffan o'r hen razorblade-gargler, Bonnie Tyler, neu'r bytholwych Only Men Aloud! a'r hyfryd Tim!