mwy o Columbus

Gwrddes i lan da Llio heddi. Odd e'n rili rili rili neis gweld hi. On i wedi meddwl falle mynd i gwrdda hi a'i ffrindie am ddrinc heno, ond fel nithwr, ar ôl bod yn ishte yn gwely yn wocho tledu am sbel, on i rili ddim yn y mwd i ddod mas o'r gwely yn anffodus. Ac odd hi'n 10.30. Mynd i gwrdda nhw am frecwast bore fory ta beth, cyn heado nol am gytre.

Wedi bod yn gwarnado ar, ac yn darllen am Gynhadledd Plaid yn Llandudno hefyd heno. Araith Adam yn rhif 1 o'r top 5 read articles ar y BBC ar un pwynt heno. a ma fe'n araith wyth. So allwch chi wrando arno fe via blog ordovicius. Y gynhadledd yn dishwgl fel llwyddiant ysgubol chware teg. Ewch i plaidbyw.com i gael pip ar lunie, fideos, blogiade a diweddariadau twitter o'r gynhadledd.

Co obitho byddai'n llu ffindo'r ffordd gytre fory more dda a ffindes i'r ffordd ma!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw