ppp (pre-Pittsburg post!)

Wel er bo fi i fod i of dyn dysgu Cymraeg o ryw fath i un boi yn y Brifysgol, smo fe di troi lan o gwbl to, ar wahan i'r cyfarfod cynta lle on ni'n ffindo mas beth odd e'n wbod. Ddim yn siŵr os yw e'n actialwi'n dost ne bido. Dim ots ta beth, chos on i'n gwbod bod e ddim rili ishe neud hwn, a'i fod e'n neud e er mwyn graddio'n unig, so na ni!

Ma gwefan Canolfan Madog nawr yn ddwyieithog, so os y'ch chi ishe mynd draw i weld y gampwaith, ewch i www.madog.rio.edu/cy neu www.rio.edu/madog.cy! Byddwn ni'n lansio'r wefan ym Mhittsburg yn y Ngŵyl Cymru Gogledd America.

Na'i gyd sda fi i'w weud nawr, ar wahân i....ewch fan hyn os y'ch chi'n ffan o'r hen razorblade-gargler, Bonnie Tyler, neu'r bytholwych Only Men Aloud! a'r hyfryd Tim!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw