wedi Pittsburgh

Wel ges i ddim lot o gyfle i flogio ar ôl pnawn dydd Gwener. Dyma grynodeb byr!!

Banquet Nos Wener - Distaster. Dim y bwyd on ni wedi archebu ar ôl i'n bwrdd ni. Gethon ni ddwy botelaid o win yn lle (costio $65 yr un!!!), ond odd e dal yn siambles! Gwyndaf Jones (tenor o Gymru yn byw yn Nhoronto) odd yr enterteinmynt. On i lan nes 3am, a wedyn odd angen codi am 7am i fynd i frecwast Ninnau am 7.30. un gair - strygl!

Dydd Sadwrn - i'r Catherdral of Learning ym mhrifysgol Pittsburg - sdafelloedd yn dynodi gwahanol ieithoedd a threftadaethu. Odd yr ysatafell Gymraeg braidd yn ddiflas rhaid dweud, ond odd rhai o'r ystafelloedd eraill yn wych - lluniau ar y ffordd. Ar y ffordd nol odd 'tour guide' yn gweud pethe ridicilys. Odd e'n gweud am ferch 16 briododd ddyn 43, odd rhwbeth i neud da beth odd enw'r ardal on ni'n gyrru drwyddo fe "she had 9 children; 3 boys and 3 girls." A na ni. od iawn!

Cyngerdd Côr Cymry Gogledd America yn y nos. Wy'n credu gallen nhw fod wedi bod yn well.....
Es i i'r gwely ar ôl y cyngerdd, wedi blino!

Dydd Sul - gwasanaeth yn y bore wedyn Gymanfa yn y prynhawn a'r nos. Ar ôl y Gwasanaeth gethon ni brunch yn Six Penn. Gwych!! Ges i gwpwl o Bellinis, breakfast spring roll a eggs Benadict (nid Eggs Bernadette!!!!). Joies i ganu yn y gymanfaoedd (odd Jeanne am adael ar ôl yr un cyntaf er mwyn bod nol am labor day - odd hi'n gweld ishe i gŵr a'i phlant a'i wyrion/wyresau - on i ishe arps, a tough odd hi iddi hi achos on i'n moyn aros i ganu. A ta beth, mond am 3 dwrnod odd hi bant a dyw hi ddim yn meddwl bo fi'n gweld ishe pawb a ishe mynd gytre withe? Na, achos sai'n cwyno!!) Ta beth, joies i'r canu'n fawr, a odd Eilir rili yn dda gyda'r gynulleidfa ac arwain y Gymanfa. Arhoses i yn y bar da criw nes bwyti 1am yn byta pizza a chal cwpwl o lasys o win (dim gormod chos on i'n dreifo yn y bore). Gadwon ni am 7.30 ish bore dydd Llun, a on i nol yn y ty ar ôl dropo Jeanne off erbyn bwyti 1pm. So ges i ddiwrnod tawel o neud dim byd ddoe (labor day), a nol i'r gwaith heddi. Hyfryd!

Ma mwy da fi weud am y specifis wy ddim yn mynd i weud fan hyn. Ond ar y cyfan nes i wir fywnhau, a byswn i'n mynd to wy'n credu. Baswn i hefyd yn mynd nol i Pittsburgh, dinas ddiddorol iawn gyda digon i weld gan gynnwys dwy stadiwm bron reit yn y ddinas!

Comments

Rhys Wynne said…
Sbiais i ar y wefan y pobl uchod, ac mae'n nhw'n ymddangos yn gymeriadau (ahem!), ond falle byddai'n ddoeth bodyn ofalus beth ti'n sgwennu am bobl os wyt yn rhoi dolen at eu gwefan - os ydy'nt yn casglu ystadegau am nifer o bobl sy'n ymweld â'er wefan ac o ble ()ac maen nhw'n edrych fel y siort fasai yn) yna gallant yn hawdd iawn ddod ar draws y dudalen yma.

Hyd yn oed os nad ydynt yn dallt Cymraeg, gallant ddeall sawl gair ti'n ddefnyddio i'w disgrifio. Fel arfer faswn i ddim yn cynghori pobl beth i sgwennu beth i beidio sgwennu ar eu blogiau, ond gan dy fod ti draw yn yr adran Cymrieg safle swyddogol, gallet gael row.
sioden said…
Diolch am y cyngor. Ond wy'n ddigon saff fy marn i sefyll wrth beth wy'n i weud, hyd yn oed gyda phobl y Coleg fan hyn!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!