I Miriam a Daisy
Ni
gyd yn gwbod bod y cyfnod ma yn anodd i bawb. Ac un o rinweddau’r holl
bandemig ma yw bod pobl yn mynd yn dost ac yn marw. Ac yn anffodus ma bywyd yn
mynd yn ei flaen, fel oedd e’n gwneud o’r blaen, ac fel fydd e’n gwneud to. Y gwahaniaeth
ar hyn o bryd yw bod popeth yn wahanol, a bod teuluoedd yn ffili bod gyda’i
gilydd.
Fis
mewn i’r cyfnod cloi ma gaeth fy ail nith ei geni. Miriam Haf Wyn. Chwaer fach
i Greta Marged, ail ferch i’n frawd i Ieu a’i wraig Angharad. Mae nhw yn byw yn
Llangynnwr, a gweddill ni’r Wyns yn byw yn Nghaerdydd. Achos hyn, dy’n ni ddim
wedi cael gweld na chwrdd â Miriam ers iddi gael ei geni dros ddeufis yn ôl. Ni
ddim chwaith wedi cael gweld Greta. Dyw hyn ddim yn unigryw i ni fel teulu o
bell ffordd. Mae miloedd o Gymry ach glân gloyw wedi eu geni yn ystod y cyfnod
hyn, a miloedd mwy o famgus a thadcus, neiniau a theidiau heb gael gweld eu
hwyron a’u hwyresau. A ma fe’n fflipin anodd.
Mewn
ffordd ma Mam a Dad wedi bod yn lwcus. Lwcus achos eu bod nhw wedi cael gweld
Miram a Greta o bell yn eu gardd nhw. Mewn ffordd, achos y rheswm on nhw yn yr
ardal oedd i sortio tŷ mamgu gan ei bod hi wedi gorfod mynd i gartref.
Yr
un diwrnod a ganwyd Miriam, gafodd mamgu emergency placement mewn i gartref
gofal yn Llandybie. A fanno buodd hi nes iddi farw ddoe. Diwrnod olaf Mehefin 2020.
Chafodd hi byth gwrdd â’u gor-wyres, ond rodd hi’n gwybod iddi gael ei geni.
Ma’r
corona ma’n absoliwt gachu (sori mam). Ni wedi bod yn lwcus. Odd mamgu’n hen,
odd hi’n 94. Odd hi wedi cael bywyd da. Chafodd hi ddim o’r feirws. Gorffodd hi
ddim dioddef. Alla i ddim dychmygu colli rhywun yn y ycyfnod ma i’r
salwch afiach ma. Peidio cael gweld nhw, gwybod cymaint ma nhw’n dioddef, a
gorfod eu colli nhw heb weud tara.
Felly
ma’r blog ma, gobeithio’n cynnwys dwy haen. Dyma ni, deulu bach sydd wedi
croesawu merch fach nad oes neb wedi ei chwrdd am ddeufis. A dyma’r un teulu
sydd wedi ffarwelio â’u merch hynnaf heb gael ei gweld am ddeufis. A heb gael gweud
hwyl fawr.
Ond
mae cyment gwâth na ni. Felly er mwyn Duw. Er mwyn i bobl gael gweld eu hanwyliaid,
wnewch chi aros gytre?
I
Miriam ac i Daisy?
Comments
Diolch