Claddu yn amser Cofid

So. Ma angladd mamgu fory. Ma hi'n mynd i fod yn anodd am gyment o resymau gwahanol. Am yr holl resyme ma angladde wastad yn anodd. Plys fi'n hollol iwsles da angladde ta beth. Plys dim ond 7 o ni fydd na.

Felly fory fyddwm ni'n mynd lawr yr M4 yn gyfreithlon, yn torri'r rheol 5 milltir i fynd i angladd Mamgu. Ond fydd hi ddim yn angladd arferol. Ni'n mynd i dŷ mamgu am wasanaeth breifat - lle fydda i a Ieu a Llill yn canu (Duw yn unig a ŵyr shwd eiff hyn), dyna oedd Mamgu ishe. Ond sai'n credu odd hi'n rhagweld mai dim ond ni'r teulu fase na pan wedodd hi mai dyna oedd hi ishe.

Wedyn fyddwn ni'n mynd i'r fynwent. Ac fe fydd na rhai pobl eraill yn cael cwrdd â ni na, ond dim ond achos mai tu fas fyddwn ni.

Sai ishe i neb ohonoch chi deimlo'n flin drosto ni, achos ma marwolaeth yn beth naturiol a normal. Yn enwedig i fenyw 94. Ond ma hi jest yn od. 

Does dim byd yn normal am angladd yng Nghymru, i fenyw oedd braidd yn siarad Saesneg (S4C drwy'r dydd bob dydd), lle na gewn ni forio canu yn y capel. I fenyw oedd yn aelod o gôr Llanpumsaint am gyment o flynyddoedd. I fenyw oedd y capel yn rhan mor bwysig o'i  bywyd ar hyd ei hoes. I fenyw oedd ag "organ fach" yn y lolfa, achos odd jest rhaid canu. Dyw e jest ddim y iawn. Ond ma fe'n iawn. Ma'n rhaid i ni fyw a mynd drwy bethe fel hyn yn y ffordd hyn er mwyn cadw pawb arall yn saff.

Cadwch yn saff, dilynwch y rheole, ac ewch a'ch sbwriel gytre da chi....

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!