Gwisga dy fasg

So. Co ni nôl yn lockdown. Wel fi yn o leia, a rhan fwya o'r wlad. Ma'n gyfnod anodd ac od. Fi di darllen sawl peth yn ddiweddar am bwyti'r 'six month wall' neu'r 'six month fatigue'. Mae e'n gyffredin pan fod rhywun yn mynd drwy gyfnod fel hyn (unrhyw gyfnod sy'n achosi trawma fel ma hwn yn), i gyrraedd pwynt tua chwe mis mewn lle ma'r awydd i ddianc yn oruwch na dim. Ac yn anffodus allwn ni ddim dianc rhag hwn. Ni wedi cael haf hyfryd i drial dianc chydig bach, ond nawr ma fe nôl i fod yn ful blown. A ma hi'n mynd i fod yn anodd. Ma hi'n barod yn anodd. Ma'r tywydd gachu ma ni'n cael penwthnos ma ac ers wythnos ddim yn hepl o gwbl. Ond ni dal yn gallu cwrdd tu fas (dan gazebos cadarn!), ac mae e'n hynod bwysig ein bod ni dal yn neud. Mae na fusnese bach, tafarndai annibynnol, a bwytai yn mynd i sdryglo dros ycyfnod ma, fel ŷn ni am sdryglo. Fi'n credu bod hi'n bwysig ein bod ni'n eu cefnogi nhw gyment ag y gallwn ni.

Ma'n hynod bwysig hefyd ein bod ni'n helpu a chefnogi'n gilydd drwy'r ail don ma. Ma'r busnes bybl dros dro ma yn mynd i fod yn help, ond ma angen i ni neud yn siŵr bod ein ffrindie sengl neu sy'n byw ar eu penne'u hunan yn manteisio ar hwna. Ma rhaid i ni edrych ar ôl ein gilydd. 

Fi'n byw ar y mhen yn hunan. Pan ddath y clo mawr nôl ym mis Mawrth, fe wnes i sdryglan yn fawr iawn. Nes i benderfyniad i fynd i fyw da mam a dad am gyfnod, fues i na am dri mis. Mae gyda nhw hen gartws ar waelod yr ardd, maen nhw wedi'i weddnewid, a fanna fues i'n cysgu a gweithio. Weithiodd e'n wych i fi. Ond r y dechre on i'n teimlo'n hunanol dros ben am wneud y fath beth pan nad oedd eraill yn gallu. Ond fe ddes i dros hwna. Odd rhaid i fi wneud beth oedd ore i fi. Weithie ma rhaid bod yn hunanol. Ddes i nôl i Grangetown pan llaciodd pethe, a bod ni'n cael cwrdda pobl.

Tro ma wy di penderfynnu aros yn Grangetown am nawr. Fi'n teimlo'n lot hapusach yn yn hunan, a ma'r bybl dros dro ma yn mynd i fod yn help. Ond fi'n ymwybodol iawn bod angen i fi edrych ar ôl yn hunan, a bod yn barod i wneud newidiade. Fi'n whilo am bwynt i'r blogiad ma, a fi'n credu mai beth yw'r pwynt yw i edrych ar ôl eich gilydd, ac i edrych ar ôl eich hunan. A gwisgwch eich fflipin masg.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy