Posts

Showing posts from November, 2011

Ond doedd e'n ddydd da

Image
Ma cyment o ddyddie yn toddi mewn i'w gilydd a chyment o bethe crapllyd yn gallu digwydd gyda'i gilydd ma amgen dathlu'r dyddie da. Ac i fi odd heddi wirioneddol yn ddiwrnod da. Falle fod rhai ohonoch chi'n gwbod mod i'n trial colli pwyse. Ma'r cwpwl wthnose dwetha ma wedi mynd bach tw pot. Withes i'n rili galed wthnos ma a cholli tri phwys a hanner. So on i'n hapus!! Bring on wthnos nesa weda i!! Yn ail ges i nghayniade gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru am yr arholiade wnes i nol ym mis Hydref. Ma'r pedwerydd (!!) tro on i'n sefyll yr arholiade a do'n i ddim yn hynod hyderus gan nad odw i'n cyfieithu per se ar hyn o bryd. Ond, daeth y canlyniade heddi ac fe basies i'r ddwy arholiad! O'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mega chuffed rhaid gweud. Nes i sgrechen a ma rhaid bod y bobl yn y fflat lawr llawr n meddwl bo fi'n nyts! So na ni wedi rhannu fy niwrnod da â chi. Ma'n neis cal teimlo hap

Failure

Image
Nes i dynnu llun base wedi bod yn wych ar gyfer postio ar cymru365. Heblaw am y ffath bod yn headphones i yn y ffordd. Fail. Co'r llun ta beth, gallwch chi weld y potensial gobitho. Na beth ti'n cal o fod mewn rysh i gyrradd gwaith!!