Posts

Showing posts from June, 2015

Diolch

Wel ma'n her i wedi dod i ben (ers dros wthnos bellach), a on i ishe diolch i bawb nath wneud cyfraniad ac atgoffa unrhyw un sydd heb bod dal cyfle i wneud! Wy'n gobeithio gwneud yr her eto flwyddyn nesaf, felly os oes unrhyw un awydd ymuno da fi, allen ni wneud gyda'n gilydd!  Wy wedi codi dros £200 erbyn hyn, beth am drial cyrraedd £250...?! Co'r cyfeiriad rhag ofn https://www.justgiving.com/sionedwyn Diolch to!

Dyddiadur dŵr diwrnod 9

Bron a bod na! Mond un dwrnod cyfan arall ar ôl, wedyn dydd Gwener am 5pm gaf i ifed be fynna i! (Sef gwin gyda raclette iym). Wy wedi llwyddo codi dros £200 rhwng beth fydda i'n cyfrannu fel y running total a chyfraniadau hael iawn fy nghyfeillion a nheulu.  Ma hi yn wir wedi mynd yn haws wrth i'r amser fynd yn ei flan, a wy di dysgu bo fi yn ddigon hapus i fynd mas am bryd o fwyd heb yfed (odd dydd Sul yn brawf da o na); ma gormod o ddŵr yn gallu rhoi pen tost; weithie sdim ots os nagych chi'n ifed, ma bwyd yn gallu bod yn ddrud heb win! Dyw'r dŵr i hunan heb fod yn ddiflas, sef beth on i'n poeni fydde'n digwydd, ond ma na adege lle wy wirioneddol wedi moyn gwydred o win neu gin. Erbyn hyn ma'r cravings di newid i rai am ddishgled neis o de! Bron â chael yn nhemtio i barhau â'r her, ond ma'n siŵr na wnaf i. Ond fe fydda i'n sicr yn gwybod y galla i ymwrthod heb alcohol neu gaffine am gyfnod os odw i ishe. Felly onwards and upwards, dau ddwrnod