Dyddiadur dŵr diwrnod 9

Bron a bod na! Mond un dwrnod cyfan arall ar ôl, wedyn dydd Gwener am 5pm gaf i ifed be fynna i! (Sef gwin gyda raclette iym). Wy wedi llwyddo codi dros £200 rhwng beth fydda i'n cyfrannu fel y running total a chyfraniadau hael iawn fy nghyfeillion a nheulu. 

Ma hi yn wir wedi mynd yn haws wrth i'r amser fynd yn ei flan, a wy di dysgu bo fi yn ddigon hapus i fynd mas am bryd o fwyd heb yfed (odd dydd Sul yn brawf da o na); ma gormod o ddŵr yn gallu rhoi pen tost; weithie sdim ots os nagych chi'n ifed, ma bwyd yn gallu bod yn ddrud heb win!

Dyw'r dŵr i hunan heb fod yn ddiflas, sef beth on i'n poeni fydde'n digwydd, ond ma na adege lle wy wirioneddol wedi moyn gwydred o win neu gin. Erbyn hyn ma'r cravings di newid i rai am ddishgled neis o de! Bron â chael yn nhemtio i barhau â'r her, ond ma'n siŵr na wnaf i. Ond fe fydda i'n sicr yn gwybod y galla i ymwrthod heb alcohol neu gaffine am gyfnod os odw i ishe.

Felly onwards and upwards, dau ddwrnod gwaith ac un noson i fynd! Woop.  

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy