Gwybodaeth Dechnolegol

Ma Jeanne yn dysgu un dosbarth o LA10101-Freshman Success ddwywaith yr wythnos (Ma pob myfyriwr newydd yn gorfod cymryd y dosbarth a ma na sawl dosbarth gwahanol). Dydd Mawrth a dydd Iau am 11.30 ma'r dosbarthiade da hi. Wy wedi bod i'r ddau ddosbarth cynta da hi, ac ar ôl yr un cynta ron i'n meddwl i bod hi'n bod yn itha nawddoglyd, neu bod y cwrs yn un rhwydd ofnadw, un o'r cyrsie na sydd fel sgwennu'ch enw ar bapur arholiad yn golygu bo chi'n cael 2 farc neu rhywbeth. Cwrs allwch chi ddim rili ffaelu oni bai eich bod chi ddim yn i gwpla fe. Y rheswm wy'n gweud hyn yw, er bo da nhw dasg i'w gwneud bob wythnos - beth odd yn cael ei alw'n Journal - y dasg ar gyfer yr wythnos gytaf oedd bywgraffiad, un tudalen (double spacing). Nawr ma cwblhau'r Journals ma yn cyfrannu at y marc ar gyfer y cwrs, a chyn belled a'u bod nhw'n sgwennu rhywbeth, ma nhw'n mynd i basio rili. Dyw tudalen double spacing ddim yn lot, rhyw 500 gair falle? ta beth digon o ranto, nai ddod at bwynt y blogiad ma nawr!

On nhw yn un o'r sdafelloedd cyfrifiaduron heddi er mwyn gwneud yn siŵr 'u bod nhw'n gwybod siswt odd logio mewn i'r cyfrifiadur, agor e-byst, safio dogfenne yn y lle cywir, atodi dogfennau at e-bost, mynd at yu catalog 2009-2011 (fel canllaw) sydd ar-lein eleni am y tro cyntaf gyda nifer cyfyngedig o fersiynau wedi'u printio. Ta beth, on i'n meddwl - sen i wedi mynd i ddosbarth fel hyn wrth ddechre yn Aber, bydde mwyafrif llethol y dosbarth wedi dilyn y cyfarwyddiade a llwyddo i wneud popeth o fewn bwyti 10 munud - chwarter awr, a wy ddim yn neud crac am Americanwyr, wy jest yn siarad am llythrenned cyfrifiadurol a siwt ma'r rhan fwyaf o bobl wy'n nabod yn gallu o leiaf y pethe symlaf ar y cyfrifiadur. Wel odd hi'n agoriad llygad i fi. Odd hi'n amlwg bod rhan fwyaf y myfyrwyr ddim yn gyfarwydd iawn â chyfrifiaduron o gwbl, yn enwedig y cysyniad o logio mewn i'r cyfrifiadur. Odd angen iddyn nhw newid eu cyfrinair o'r un default (4 rhif olaf eu Social Security), i un arall 6 chymeriad. Odd lot o brobleme a odd wir angen cerdded lot ohonyn nhw drwy bob step. Ma rhaid i fi weud ges i rial sioc o sylweddoli cyn lleied o gysylltiad â chyfrifiaduron on nhw wedi'i gal.

Er bod popeth yn honedig yn fwy ac yn well ar draws y pwll (i or-bentyrru idiomau Saesneg), ma'n amlwg bod addysg dechnolegol ddim yn flaeoriaeth uchel i Americanwyr, neu falle mai jest yr ardal ma yw e. Ma mwyafrif y myfyrwyr yn dod o Ohio neu West Virginia (bwyti awr o fan hyn), felly falle maw rhywbeth yr ardal, y dalaith neu'r math o fyfyrwyr ma'r Brifysgol yn denu yw e, neu falle'i fod e'n beth cenedlaethol.

Er nad yw gwybodaeth dechnolegol yn hanfodol, mae e'n dod yn fwyfwy pwysig mewn nifer o alwedigaethau a swyddi ayb. Nawr wy ddim yn poeni am y myfyrwyr ma achos ma nhw gyd yn yr un twll a wy'n siŵr wnawn nhw ddysgu tra'u bod nhw ma. Y mhwynt i, wy'n credu, yw bod y mhrofiad i o lythrennedd technolegol pobl yng Nghymru yn dangos i fod e bron 100% yn uwch nag yw e mas fan hyn, yn yr ardal hyn ta beth. Yr ail beth, odyw e mor bwysig a ny fod pobl yn hollol hyddysg mewn cyfrifiaduron? Os angen i'r person cyffredin allu deall mwy na hala rhyw e-bost neu ddau? A wy'n credu i fod e, achos mond tyfu wnaiff technoleg a'i bwysigrwydd i fusnes ac addysg, ac os nagych chi'n rhan ohono fe, odych chi'n mynd i gael eich gadel ar ôl a rhoi'ch gyrfa yn y fantol trwy beidio gael sgil sydd gan bobl erill o'ch cwmpas chi?

Yn amlwg falle bo fi wedi'i cha'l hi'n hollol anghywir am lythrennedd cyfrifiadurol pobl Cymru, a bydde gofyn fan hyn os yw pobl sy'n darllen hwn yn hyddysg yn eu cyfrifiadur bach yn ddi-bwynt. Ond bydden i'n lico gwbod os yw pobl yn ymwybodol o bobl (a wy ddim rili yn sôn am bobl lot hŷn fan hyn, fel mamgus a dadcus!) sydd ddim yn defnyddio cyfrifiaduron, un i o ddewis, neu o ddiffy cyfle?

Comments

Cs said…
Heia, fi moyn gadael comment, ond sai'n siwr sut i logio mewn!?
sioden said…
Helo Cs. Ti wedi gadael comment!!!! Ma lle i logio mewn os oes da ti gyfrif google o dan y blwch comments.
CJ said…
Fi iw Cs, it's supposed to be CJ, o ni'n trial fod yn ironic, fel americanwr sy fili logio mewn.
Cerith Jones said…
oh, a CJ iw Cerith Jones. Just in case.
sioden said…
o fi'n gweld!! on in gwbod ma ti odd CJ. wel actually on i'n meddwl ma Catrin Jones odd e am tam bach!!

Popular posts from this blog

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy