Stwff wy ddim di gweud!

Oce - so ma na cwpwl o beht wy'n cadw anghofio gweud pan wy'n siarad da pobl a phan wy'n blogio.
  1. Ma Evan Davis wedi gofyn i fi arwen y canu yn y gymanfa ganu yn Ty Rhos yn yr hydref achos bod neb arall gyda nhw i neud ar y funud. Sai erioed wedi neud o'r blan - so unrhyw tips PLîS!!!
  2. Fi yw llywydd y Cardig Club am eleni a Lauren yw'r is-Lywydd. Dim syniad pam, nes i ddim rhoi'n enw mlan a nath neb rili gofyn i fi nehton nhw jest cyhoeddi fe yn y mhicnic croeso i - od, a wy ddim hyd yn oed yn gwbod beth sydd angen i fi wneud. A i'r rhai o chi sy'n wherthin Cardigan as in Abertwifi nid Cardigan as in beth ti'n wishgo pan ma hi'n ôr wy'n sôn amdano fe!!
  3. Ma na sianel ar y teledu a'r subscription sy da fi sy'n dangos lods o raglenni prydeinig, gan gynnwys Dr Who. So ges i Wocho Dr Who yr un gyda New New York a Cassandra - pennod gyflawn gynta Tennant wy'n credu! A dim hysbysebion o gwbl!!! YMESING!!!
Oce na'i gyd wy'n credu mod i heb weud erbyn hyn!!! Ffyni bod pethe felna'n digwydd bo rhwbeth ti'n bwriadu gweud yn popo mas o dy ben pan ma ishe. Ma'r ddou beth cynta ar y rhestr wedi digwydd ers dros fis, ond nithwr nes i ddarganfod am Dr. Who. gysitid.

Ddoe nethon ni gwrdda Dr Robert Burns, dyn 93 o Florida (teulu yn wreiddiol o Gymru) odd yn cyfrannu lot o wahanol llestri ayb i'r Amgueddfa Treftadaeth. O'n nhw'n cynnwys bowlen Wedgewood bwyti gan mlwydd oed a "wings" RAF o'r Rhyfel Mawr. Odd e'n rili exciting!! On ni fod i fynd nol i'r amgueddfa heddi i dynnu llunie, ond ma tad Jeanne yn yr ysbyty, a wy ddim ishe mynd lawr ar ben yn hunan chos wy'n credu bod rhywbeth yn byw yn y to (glywon ni fe ddoe!!!). So unwaith byddai wedi tynnu llunie o rheina byddan nhw i gyd yn yn mynd ar Picasa i bawb gal i gweld nhw!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!