Gwasanaethau Iechyd

Rhaid i fi weud bod y busnes slaggo'r GIG off, (sy'n digwydd yn America nawr achos yr Healthcare reform ma sy'n trial cal i basio) yn mynd yn hollo nyts ac yn hollo afresymol. Ma Americanwyr a phobl o'r DU (gan gynnwys gwleidyddion - toris wrth gwrs) wedi bod yn gweud bod y GIG yn gadael i hen bobl farw achos bo nhw ddim gwerth i cadw'n fyw a gweud bod pobl yn gorfod defnyddio sipergliw i ludo dannedd nol achos bod deintyddion yn gwrthod i gweld nhw. Yn amlwg ma hyn i gyd yn gelwydd neu yn achos y siwpergliw yn estyniad enfawr ar y gwir.

Wy yn i chanol hi fan hyn, a hyd nes wythnos ma wedi bod y gweud bod dim lot o wahanieth rhwng y ddwy system yn y pen draw - lle bo fi'n cynhyrfu'r dyfroedd. Ond ar ôl i fi ddysgu mwy am y ddwy system a'r gwahaniaethau, does dim dowt da fi y byddai'n sefyll lan dros y GIG nawr. Ges i gomment gan Louis, gwr Jeanne, mai system iechyd America odd y gore yn y byd, a nawr on i'n gwbod bod hwna ddim yn wir, ond on i ddim yngwbod pa mor anwir odd e. Ma'r erthygl ma yn nodi bod Prydain yn ddeunawfed a bod yr UDA reit lawr yn 37. Dim chans bo nhw'n cal dod off da fe to ffor shor.

Y diweddaraf yw i bod nhw'n gweud ar Fox News y bydde cal system fel yr NHS yn cynnyddu terfysgaeth achos beth ddigwyddodd gyda'r ddau ddoctor yn trial dinistrio maes awyr Glasgow!Ewch i weld dros eich hunan, ma fe'n wallgo! Mae e jest yn profi pa mor dwp ma yanks yn gallu bod - newn nhw gredu unrhywbeth. A'r bobl sy'n codi bwgando fel hy yw'r bobl sy'n ennill cannoedd ar filoedd o ddoleri y flwyddyn ac yn ofni y byddan nhw'n ennill llai a ddim yn poeni DIM am gyflwr iechyd pobl y wlad.

Comments

ieuanwyn said…
clywch clywch!!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy