idiocracy a pethe ddim mor idiotig!!

Wedi cael cwyn bod fi heb bostio ers sbel, so co ni'n mynd!!! Nes i fwynhau'r erthygl ma ar y BBC ynghylch jôcs gore yn Ngwŷl yr Edinburgh Fringe (anth Dad hala'r rhestr atai wedyn weles i fe ar-lein). Nes i DDIM joio'r erthygl hon, ac yn meddwl fwy nag erioed bod Americanwyr yn gallu bod yn HYNOD o sdiwpid, a nath e nghythruddo fi! (y ddwy erthygl yn ymwneud â'r Alban - diddorol...)

Ta beth, nes i ddihuno bore ma gyda llwnc tost a phen tost (wel odd y pen tost da fi ers nos Sadwrn fwy neu lai'n constant), a wy'n credu bod rhyw fath o annwyd ar y ffordd da fi. Un ai na nwu swine ffliw (nes i brynu hŵfyr dydd Sadwrn a odd e'n 'made in Mexico', so falle bod y ffliw wedi dianc wrth i fi agor y box, a la rhyw bennod o'r Simpsons....). Nai gadw llygad ar yn hunan!!!

So wy wedi ffindo cwpwl o beiri o sgidie (diflas wy'n gwbod, ond ma rhai o chi am wbod hyn!) a bits a bobs eraill pan on i'n siopa dydd Sadwrn so wy'n hapus. Dodd dim amynedd da fi fynd i siopa dillad yn siriys, ond wy off i Pittsburg wthnos i ddydd Iau, so FALLE gaf i siawns i siopa fan na, cawn weled!!

Dath na foi mewn heddi sydd wedi bod yn astudio yn y brifysgol ers tua 5 mlynedd (yn ôl Jeanne), achos i fod e wedi ffaelu cwpwl o fodiwle, a mae e'n gobitho cwpla semester ma. Yr unig beth sydd gyda fe ar ol yw 'Welsh 2'. Soooo, os nagych chi wedi ffigro mas erbyn hyn - wy'n gorfod dysgu'r boi ma fel i fod e'n gallu graddio! Wy'n defnyddio 'The Lingo' cwrs Cymraeg gafodd ei ddatblygu gan Tim Jilg (y cyfarwyddwr cyn Jeanne) ar-lein i'w ddysgu fe, a gan fod popeth wedi'i baratoi, wy'n siŵr y bydda i'n ffain!!

So nol â fi i baratoi gwersi (nefyr thot i wwd sei ddat!!), fi fel athrawes!!

O, a y peth mwya ridic weles i ddydd Sadwrn. On i yn y drvie through ATM (I know, I know), a odd na braille arno fe. ar y drive through ATM. dwli llwyr!!

Comments

Cerith said…
fingers crossed bod y boi na yn passo!! what a challenge!!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy