dim ffliw moch

Ypdêt bach i chi gyd - sdim ffliw moch arna i, a dim hyd yn oed annwyd sai'n credu - ddim yn dost rhagor. Ma dant doethineb wedi bod yn tyfu bach yn ddiweddar, so ma'n bosib ma hwna odd e (itha tebygol a gweud y gwir), so wy jest yn gobitho nawr na fydd dim yn digwydd iddo fe. Dim pen tost na twmlo'n crap rhagor ta beth so wy'n siŵr byddai'n ffain.

Dyw hyn ddim yn brêcing niws, ond ma fe'n bwysig i fi. Tan nawr don i ddim yn gallu rhoi to ar ŵ ac ŷ yn y blog am ryw reswm, dodd y shortcyt ddim yn gweithio fel odd e ar gyfer pob llythyren arall on i ishe. Ond fe ffindes i'r codes html ar gyfer rhoi'r to ar lythrenne, so wy'n llu neud na nawr a ma tŷ yn dishgwl yn gywir a dim fel ty!! Joio bod yn gîc fi!

Sdim byd arall wedi digwydd yn fy mywyd bach od i ers i fi flogio ddwetha, ond on i'n ofni peidio blogio rhag ofn bo fi'n cael stŵr to - you know who you are, and I know where you live - grrrr!! So na ni am nawr, a wy'n siŵr bydd mwy da fi wedu to cyn hir, a fel chi'n llu gweld nawr bo fi'n gallu, wy di mynd dros y top da'r geirie da toie bach ynddyn nhw!! Joio.

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw