Pittsburg part one!

Gymrodd hi bwyti 5 awr i yrru i Pittsburg o Rio Grande ddoe, gan gynnwys sdopo i gael bwyd ayb, a ffindon ni bopth yn hawdd iawn. Checo mewn, gin bach yn y bar wedyn Dafydd Iwan ac Ar Log. Odd y cyngerdd yn rili dda. Blue Rinse Parade central tho, pobl braidd yn ddiflas, on i'n twmlo fel alci gyds Jeanne yn cal cwpwl o gwrws!

Gwrddes i da boi odd yn nabod Alun Guy (odd e di bod draw yng Nghymru yn aros da fe Gaeaf dwetha, ac odd e yn y Plymouth Arms ar yr un noson ag odd Côr Caerdyddd na ar ôl canu yn Sain Ffagan!!). Odd e hefyd yn adna bod R. Alun a Rhiannon ac odd e (R. Alun) wedi bod mas yn aros gyda fe, ac am fynd nol i bysgota am Bass!! Radnom ond great!

Odd hi'n rili neis gweld cymaint o bobl sydd basically yn Americanwyr, (Americans of Welsh Descent), a ddim yn siarad Cymraeg yn gwrando ac yn mwynhau Dafydd Iwan ac Ar Log. Ac yn canu'r anthem. Odd e'n neud i fi feddwl, pam nad os mwy o bobl yng Nghymru yn gwerthfawrogu'u diwylliant fel hyn, pobl di-Gymraeg hynny yw.

Y petj mwya idiotig nes o odd anghofio'r adapter ar gyfer charger y camera, ac wrth gwrs odd batri'n camera'n fflat!! Ond brynes i un heddi yn Radio Shack so all is good nawr.

Wedi bod yn y 'Marketplace' drw'r dydd yn manno'r ford. Drws nesa i'r bobl mwya annoying YN Y BYD. Lyn Clarke yw enw'r boi, a Sharon yw i wraig e. Dyma'i gwefan nhw. Ma nhw'n fyw ridicilys yn y fflesh fel petai nag ar-lein. Ma RHAID i chi ddarllen biog y ddau ohonyn nhw - ffor laffs de!

Gethon ni fywd hyfryd yn Palomino - ges i chowder a hanner brechdan blue crab ac artichoke. Odd e'n rili neis ac yn mynd yn berfeth da'r gwydrain o Riesling.

Off nawr i wishgo i fynd i'r Banquet heno, lluniau ddilyn (!!!)

Comments

LlioLlio said…
banquet?!!
ôsym!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!