rhwng dau wylie!

Os ych chi wedi bod yn dal y'ch anadl yn aros i fi flogio ar ôl dod nol o Sgïo ac yn poeni mod i heb wneud rol dychwelyd ac yn meddwl "o na ma hi wedi cal niwed mowr"....Worry no more ffrinidiau, wy wedi cyrradd nol yn saff! A hynny heb gwympo unwaith (sai'n siŵr shwd nes i fanijo na, ond na ni!).

Nai ddechre da'r gwesty - Stowe Mountain Lodge. (Llun ohono o'r tu fas wedi'i oleuo). Cystal, os nad gwell na'r wefan. Bar a bwyty hyfryd (os braidd yn ddrud), diodydd blasus dros ben - cwrws lleol hyfryd a choctêls amrywiol a blasus iawn. Bwyd hyfryd bob noson, ta ble on ni, yn enwedig Lamb Gnocci y noson gyntaf ym mwyty Solstice yn y Gwesty, a Veal y noson olaf yn y Cottage, jest ar bwys y gwesty.

Digon am y bwyd, at y sgïo. Wel odd e'n real eira'r gwanwyn. Lot o slwsh, twym i sgïo a sawl sawl sawl cawod o law yn anffodus. Wedi gwario LOT o arian ar basys ar gyfer y liffts (mwy na warion ni'n heiro sgïs) am 6 dwrnod, nethon ni sgïo 5 dwrnod. Ni fu sgïo ar y pedwrydd diwrnod achos odd hi'n bwrw glaw, ac wedi gwneud ers y noson cynt, ac odd cyflwr yr eira'n afiach. Odd na rhai pobl ar y piste, ond skischool on nhw rhan fwyaf. Y pumed dwrnod (sef dydd Iau) odd y dwrnod gore o sgïo, odd yr eira mewn cyflwr da iawn, odd hi'n or (gwyntog ofndaw!!) ac fe sgïon ni lot y dwrnod ny. Yn anffodus, y dwrnod ola odd y gwaetha. Nawr er bod cyflwr yr eira ddim wedi bod yn dda iawn a'r sgïo di bod yn anodd iawn, a ddim wastad yn bleserus fe nethon ni joio. Bydden ni'n mynd nol na, ond byth mor hwyr yn y tymor. Wy'n credu bydden i'n ystyried yn ddwys cyn mynd i sgïo mor hwyr yn y tymor unrhywle a dweud y gwir, gan i bod hi wedi bod mor anodd.

Ta beth, bu joio. A wy'n ych clywed chi'n gofyn "Ond beth nethoch chi ar y dwrnod lle na fuoch chi'n sgïo?" Wel wedai tho chi, fuon ni yn ffatri gyntaf Ben and Jerrys odd tua 20 munud i lawr yr hewl. Nid y prif ffatri yn Burlington, ond un fach sy'n cynhyrchu 2 flas ar y tro. lysh. Odd hi'n free scoop day, so hufen ia a thaith o gwmpas y ffatri am ddim! Am lunie o bob man, ewch i facebook.com/sioden fel yr arfer!

Amser hyn wythnos nesa, bydda i'n mynd ar fy ffordd fach i Cincinnati i gaslu Cerith o'r maes awyr, ac amser hyn wthnos i fory byddwn ni ar ein ffordd i Eforg Newydd, a sdim un o ni'n gallu aros!! Ma na playlists ar gyfer y daith a phopeth yn planned, joio!

I gwpla - fues i'n meddwl ar y ffordd nol o Stowe, sawl talaith odw i wedi bod ynddi hyd yn hyn, a sawl un byddai wedi bod ynddyn nhw erbyn gadel. Hyd yn hyn allai dicio off (gan gynnwys, am nawr, taleithie wy wedi bod yn y maes awyr yn unig...) Ohio, New York, New Jersey, Massachusetts, New Hampshire, Vermont, Georgia, Michigan, West Virginia, Virginia, Kentucky, Pennsylvania. Sy'n gwneud 12. Not bad am 9 mis rili (Efrog Newydd a New Jersey 10 mlynedd yn ôl).

Pan fydda i a Gwenllïan Haf yn teithio o gwmpas y wlad, bydd fformat y Blog yn newid, i gynnwys
  1. Map o'n taith ers y blogiad diwethaf
  2. Cyfanswm milltiroedd hyd yn hyn
  3. Taleithiau
Plys pethe erill - plîs gadwch goment i weud beth arall licech chi i ni gynnwys. Falle pa gan sydd wedi bod ar repeat gyda ni yn y car ayb. ma 2 fis da chi - GO!!!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw