Bant a fi!

Wel co ni te, ma'r dwrnod di dod - SGÏO!!!! shoop shoop shoop! Wedi siarad gyda Mam bore ma, on nhw ar fin mynd ar yr awyren yn Amsterdam i hedfan i Boston. Fi yn gwaith drw'r dydd, dim i'w wneud braidd, wedyn off a fi lan i Columbus heno i hedfan i gwrdda nhw yn Boston fory! Fel ych chi siŵr o fod wedi dyfalu - wy'n rili egseitid! hah! Ac ar ben y cyfan oll, wedi i fi ddod nol, mond jest dros wythnos fydd nes bo fi'n mynd i Efrog Newydd, bargen!!

Nes i neud pice ar y mân nithwr ar gyfer y daith fory (gyrru o Boston i Stowe). a wy di cal unbore ma a ma nhw'n siwpyr blasus!! DIshgwl mlan i fyta mwy nawr!! Ar y daith fory byddwn ni'n pasio hebio Salem, so wy'n credu falle dylsen ni sdopo na, jest so say we did like! joio

Di mwy i'w weud nawr, ond hwyl fawr. Falle nai gadw chi'n ypdetid via twitter.com/sioden so cadwch lygad! otherwise, welai chi'r ochr draw yn saff a dal mewn un pishyn gobitho. a plaster cast is NOT the attire of choice in NYC!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw