Dolig dw dw dw

Helo gyfeillion, Mai di bod yn sbel.

Si'n byth yn siŵr beth sy'n yn ysgogi i i sgwennu hwn. Licen i wneud yn fwy aml, ond fi'n ymwybodol nad oes na ddim lot o ddim yn digwydd ar hyn o bryd, so ma rhaid cal rhywbeth i'w weud spos. (ond wy dal ddim yn sicr be fi am weud heddi, so pob lwc os chi'n darllen hwn....)

Wy wedi bod yn meddwl lot fawr am y 'dolig leni. Mwy nag arfer? Sai'n siŵr. I fi ma 'dolig yn aml yn dechre mis Medi gydag ymarferion corau gwahanol ar gyfer cyngherdde ac ati. A ma hi'n amhosib peidio fel arfer gan bod siope yn blastio'r gerddorieth i bobman. Leni, sai di rili bod i siop, a sdim hawl da nhw blastio cerddoriaeth chwaith. 

Erbyn amser hyn mis Rhagfyr fel arfer base na sawl parti dolig di bod, a nifer di-ri o gyngherddau a chanu carolau ym mhob cornel o Gaerdydd. Fi'n gweld ishe canu shwd gyment, ac yn enwedig amser hyn o'r flwyddyn. Ma cyngherdded Nadolig yn bethe bach itha sbeshal. Nid achos mod i'n berson sy'n joio mynd i'r capel ta beth, ond achos bod y pwyse fel arfer off, a bod pawb yn nabod y tiwns ma na bethe sbeshal yn gallu digwydd. 

Bydd 'dolig leni'n od. Erbyn nawr base ni gyd yn hollo nacyrd, dim lot o lais, dim lot o arian, ond lot o straeon a hwyl dan ein belts. Fydd hi ddim cweit felna leni. Ond fe fydd hi felna to. Ma hi'n anodd cofio na weithie. Ma na ddyddie'n mynd yn dywyll iawn, yn llythrennol ac yn feddyliol, ond pan mai ond ti sydd yn y tŷ, ma'n anodd perswadio dy hun mas ohoni weithie. Dyna pryd ma angen estyn llaw. Ma'n gweithio ddwy ffordd, ma gofyn i rhywun os ma nhw'n OK weithe'n helpu cymaint ag unrhyw beth arall.

Byddwch yn garedig gydag eraill dolig ma. Byddwch yn garedig wrth eich hunan dolig ma. Chi'n haeddu fe.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!