Gwersi Cymraeg

Ddim yn siŵr os wy di gweud neu bido mod i'n dysgu Cymraeg i fyfyrwyr a staff y brifysgol a gweddill y gymuned ar ddydd Mercher a dydd Iau. Yr un wers y ddou ddwrnod. Ma 20 o bobl wedi cofrestru da fi, sydd yn hollol wych! Wy'n rili rili mwynhau gweud e, ond gan bo fi heb wneud o'r blaen, sdim syniad da fi shwd wy'n neud!

Os os da unrhywun unrhyw dips ar shwt i ddysgu Cymraeg (neu addysgu Cymrae ddylsen i weud!), gadwch goment! Fi'n defnyddio llyfre gwaith Dosbarth Nos Helen Prosser a Nia Parry, a ma fe'n gwitho'n dda iawn hyd yn hyn, a ma pawb felse nhw'n mwynhau a dros haner yn dangos cynnydd da iawn, a wy'n browd iawn!!

Na'i gyd am nawr. Wy'n siwr bydd mwy da fi i'w weud erbyn diwedd yr wthnos ma!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!