Eira a dim chwaraeon


Wel, dath yr eira nos Wener a bore dydd sadwrn. Bron i chwe modfedd gyda ni. Erbyn 11am odd yn hewl i wedi clyro ac on i'n meddwl allen i fynd i mewn i'r gwaith i wylio'r gêm. Es i ar hyd yr hewl, ond erbyn cyrradd yr hewl wy'n troi arni i gyrradd y brif hewl, dodd dim hewl i gal. On nhw ddim wedi'i chlyro hi eto. Felly troi nol amdani ac aros yn y tŷ yn aros am dexts gan Ieu a Gwenllïan am y sgôr. On i'n itha balch erbyn diwedd mod i heb allu wocho'r gêm achos bydde hi wedi bod yn hynod o depressing gwylio'r gêm ben yn hunan yn y swddfa a Chyrmu'n colli!!

Ta beth, nes i ddim wocho'r Super Bowl chwaith, ond wy'n falch bod y Saints wedi ennill. Ail hanner cyffrous iawn yn ôl y sôn!.

Fues i am wac ddydd Sul i dynnu llunie lan yn y fynwent - ma'r llunie i gyd ar Facebook. Ma mwy o eira ar y ffordd da ni heno a fory a thrw dydd Mercher, so ma na bosibilrwydd na fyddai yn y gwaith fory, cawn weled!





Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw