Penwthnos o Chwaraeon
Wel ma hi'n benwthnos mawr o chwaraeon penwthnos ma. Ma geme'r chwe gwlad yn dechre ddydd sul (as if you didn't know!!!). Ewch i weld trailer gyda Morgan Freeman fan hyn, ma fe'n HOLLOL wych.
Fel ych chi'n siŵr o fod yn gwbod, sdim cysylltiad gyda'r rhyngrwyd gyda fi gytre, ac wy wedi bod yn dod mewn i'r gwaith i wylio geme rygbi yn y gorffennol (oni bai bo fi yn Columbus yn wocho fe yn y dafarn da Huw wrth gwrs!!). Wel ma na storom enfawr wrthi'n symud mewn i'r ardal ar hyn o bryd (gallwch chi weld y tywydd yn yn ardal i fan hyn), ac wrth gwrs, os bydd hi'n bwrw eira, byddai ffili cyrradd y gwaith, yn anffodus. Ma'r gêm yn cael ei dangos ar BBCAmerica, ond wrht gwrs dyw BBCAmerica ddim da fi!! Gytid. Sooooo, byddai'n pestro pobl i gadw fi'n ypdêtid fia tecst os na byddai'n llu cyrradd y gwaith! grrrrr
Reit y peth arall chwaraeon mawr sydd penwthnos ma yw Super Bowl XLIV (44 i chi sydd ddim yn Rhufeiniaid) mlân nos Sul am 7pm ET (hanner nos i chi gytre ar GMT). Ma'n siŵr na'i ddropo mewn ar wocho hwna, just for the hell of it. Indianapolis Colts vs New Orleans Saints yn y Sun Life Stadium, Miami, Florida. Credu byddai'n cefnogi'r Saints, achos bo fi'n lico New Orleans! And it's all about the recovering from Katrina.
Wy am fynd i gadw llygad ar y blincin fflip tywydd ma nawr!!!!
Comments