Homecoming
Wel diwedd wythnos dweithaf odd dathliade Homecoming Rio Grande. Parade yn dechre am 4pm nos Wener a wedyn bwyd ar y diwedd. Gethon ni hwyl, rhaid gweud. Nath Canolfan Madog Gerdded gyda baneri Cymru a phyped enfawr o fam Taliesin (ma hi di bod yn y Ganolfan ers cwpwl o flynydde, gyda arwydd bach yn gweud Taliesin, wy'n gwbo mai nid Taliesin yw hi so cymryd mai i fame yw e falle - unrhyw un sydd a syniad gadewch wbod i fi!!)
Ma'r llunie ar Picasa ac ar Facebook i chi gal gweld. Ma'n rhaid i fi weud mod i di joio, a na'r tro cyntaf i fi weld criw o bobl o'r Brifysgol gyda'i gilydd yn joio, odd yn neis, ond trueni bod e ddim yn rhwbeth sy'n digwydd yn aml!!
Ma Dr Robert Tyler sy'n Fulbright-Robertson scholar yn dod i roi darlith i ni dydd Iau, ac ma'r wybodaeth am i ddarlith e ar grwp Canolfan madog ar facebook.
Na gyd am nawr bois!
Comments