Thanksgiving

Fi'n ymddeihurio mod i heb flogio ers sbel, wedi bod yn syndod o fishi!! Fues i yn Columbus dros y penwythnos yn ymweld â Lowri, ac odd Huw na hefyd. Ges i loads o loads o hwyl a ma llunie ar facebook os ych chi'n moyn gweld nhw. Odd e'n brofiad gwahanol, profi bywyd prifysgol yn yr UDA gyda'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dan oedran - felly partïon mewn tai odd yr order of the day fel petai. Nes i a Huw hefyd gal cyfle i wylio'r rygbi mewn tafarn yng Ngholumbus, odd yn neis!!!

Sooooo ma Thanksgiving fory fi'n mynd lawr i dy merch Evelyn, sydd hanner milltir lawr yr 'ewl. Gobitho byddwn ni'n llu cerdded lawr. Ma'r hen Huwcyn yn dod lawr achos bod angen i fi fynd a fe i'r maes awyr dydd Gwener. Wy'n i bigo fe lan heno o Chillicothe, sydd bwyti awr o fan hyn a wedyn fory ni'n mynd am daith fach ambwyti'r ardal, cyn cal bwyd am 4pm. Bydd hi'n brofiad newydd i'r ddou ohonom ni, so nai adel i chi wybod fel ma hi'n mynd wedyn.

Ar ôl mynd â Huw nôl lan i Columbus dydd Gwener, ma Advent Carol Sing mlan da ni yn yr Amgueddfa dydd Sul. Fel arfer ma lot o bobl yn troi lan, so wy'n gobitho bydd e'n lot o hwyl!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!