Champhai

Prif ran ein taith i Mizoram oedd cymryd rhan yn y 56th Kristian Thalai Pawl General Conference. Cynhadledd Gristnogol sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn mewn lleoliade gwahanol ar draws Mizoram. Tebyg i sdeddfod ond yn dwymach a sdim walie ar y pafiliwn! Cwpwl o stodnine rownd yr ochre a'n sicr iawn dim alcohol! 


Dros y dyddie on ni yn h gynhadledd fe wnaethom ni berfformio tua 8 gwaith (wedi colli cyfri â bod yn onest!). Ro'dd gwasanaethe yn y bore pnawn a nos a fellowship yn dilyn ar ôl y gwasaneth nos - cyfle i fwynhau amryw berfformiade heb fod yn strict fel mewn gwasaneth. 

Wy ddim am fynd ati i ddisgrifio'r perfformiade gwahanol i chi, ond wy am drial rhoi blas o'r profiad cyffredinol i chi. Ma'r Mizos yn dwlu canu. Ma fe'n rhan annatod o'i gwasanaethe nhw, am hanner awr cyn unrhyw wasaneth bydd na ganu emyne - band neu backing track; person yn galw geirie'r penillion mas fel bo pawb yn gwbo be sy'n mynd mlan (ma nhw'n aml iawn yn ailadrodd emyne dair ne beder gwaith os yw pethe'n mynd yn dda); drwm traddodiadol yn cadw curiad; a dawnsio i foli Duw mewn cylch o flaen y gynulleidfa (odd gan bob Eglwys welsom ni ardal i ddawnsio o flaen y gynulleidfa) - a dodd y gynhadledd ddim gwahanol, ond bod popeth ar raddfa ENFAWR! 

Ar y dydd Sul, y diwrnod ola, rhwng y bobl oedd yn eistedd yn y Pandal (y Pafiliwn) ac yn gwylio/gwrando o'r tu fas, odd na 43,000 o bobl. Ma hwna'n LOT o  bobl mewn un lle yn canu (mewn tiwn fyd!). 

Odd hi'b brofiad anhygoel cael bod yn rhan o hyn i gyd, waeth beth oedd teimlade crefyddol pobl, odd pawb yn gytun fod y profiad yn hollol anhygoel. Odd na deimlad mawr o gyfeigarwch a chariad, a fuon ni'n rhan o'r dawnsio sawl gwaith!

Un peth oedd yn anghyfarwydd iawn i fi, ac i'r rhan fwyaf o ni oedd beth oedd yn digwydd wedi i'r emyne ddod i ben, ac yn ystod y gwasaneth. Rodd pobl dan deimld yr ysbryd ac yn gweiddi ac yn colli rheolaeth, gan gynnwys gwneud roly polys (holy polys), dawnsio, rhedeg a gorwedd yn ddiymadferth ar y llawr. Does dim modd esbonio hyn yn fwy na na, mae na fideos, ond 'needs to be seen to be believed' fi'n credu!

Diolch byth rodd na gyfleuster cyfieithu ar gael i ni a'r 'fraternal delegates' eraill nad oedd yn deall iaith y Mizo, felly ro'n ni'n gallu dilyn y pregethe awr o hyd yn ddigon rhwydd....

Bydd dau beth pendant iawn yn aros yn y nghof i, a gweddill y côr o ran ein perfformiade yn Champhai. Tydi a Roddaist a Bridge Over Troubled Water. 

Does na ddim cymeradwyo fel rhan o wasanaethe, dyna oedd y rhybudd on ni di cal. It's not done. Peidiwch disgwyl e, byddan nhw'n mwynhau ond does neb yn cymeradwyo. Fel bydd rhai o chi'n gwybod mae na Amen aruthrol ar ddiwedd Tydi a Roddaist; a phan ganon ni hwna yn y gynhadledd, odd e'n sbeshal. Gorffen canu, teimlo'n ymeising, rymbl o siarad gan y gynulleidfa wedyn ton o gymeradwyeth yn dod o gefn y gynulleidfa. Gwych. Yn ôl y sôn, rioed di digwydd o'r blan. 

Bridge over troubled warer odd y perfformiad olaf i ni yn y gynhadledd. Rhaid i chi weld y fideo i werthfawrogi hwn yn well (nai rhoi dolen pan fydd e ar youtube) Ath y goleuade dros y gynulleidfa bant tua chwarter ffordd mewn i'r gân (sneb yn siŵr pam), mlaen a ni, a dyma pawb yn y gynulleidfa'n dod â'u ffone mas. Odd hi fel môr o sêr yn disgleirio mas na. Profiad od a gwych a ridicilys! Neiff na byth ddigwydd to!!

Na ddigon am nawr. Dal lot mwy i ddod! (Fi off i Awstria nawr - rhan nesa pan fydda i nôl!!)


Comments

Amoya said…
Interesting. I read it and missed your singing at champhai

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!