Kolkota

AM BROFIAD.

So, rewind nol i gyrradd Heathrow fore Llun i wybod fod e'n flight am fod 85 munud yn hwyr, sef faint o amser oedd am fod gyda ni o layover yn Dubai. Lwcus llwyddwyd ein cael ni gyd ar flight Qantas, oedd yn gadel awr a hanner yn gynt na'n flight wreiddiol. Queue 19 o ni'n ryshan drwy Heathrow. Gallen ni ddim bod wedi gofyn am flight gwell! Attendants hyfryd a dwy sedd yr un os on ni ishe! 

Teg dweud bod y flight mlaen i Galcutta ddim hanner cystal. Llawn dros ben ac oer! 

Ta waeth, wedi cyrraedd Kolkota, cwbwl oedd i'w wneud oedd dal tacsi. Dyna oedd profiad. Pedwar (gan gynnwys oleia un dyn gydag unrhyw ferch) a chesys mewn tacsi bach am beth odd fod siwrne awr i'r gwesty. Not so ar gyfer ein tacsi bach ni. Gymrodd hi bron i ddwyawr i Rhydian, Osian, Llio a finne i gyrradd y gwesty. Odd y boi tacsi ar goll. Gyrhaeddon ni yn y pen draw ar ôl lot o holi pobl leol a'r pedwar o ni'n poeni fwyfwy! 

Wedyn rodd hi'n amser i 19 o Gymry blinedig fynd i weld y ddinas - Victoria memorial, St Pauls Cathedral (a chanu yn y ddau le wrth gwrs), Mother House - lle'r oedd y Fam Theresa yn byw. Lle hynod a heddychlon o'i gymharu â gweddill y ddinas. 

Erbyn i ni gyd gael pryd o fwyd yn y nos odd pawb mor flinedig on ni gyd yn y gwely erbyn 9!

Erbyn sgwennu hwn ry'n ni newydd lanio yn Aizawl ym maes awyr Lengpui a ma hi'n amser cinio ddydd Mawrth 2 Mawrth. Tan y tro nesa!

ON. ar adeg postio mae hi'n ddydd Llun 7 Mawrth a nawr ni'n cael wifi am y tro cynta ers gadel Kolkota!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!