Dim byd
Blogiad bach cynta ers sbel, a wy'n gwneud o'n ffôn ar y trên (1645 Paddington i Abertawe os os rhaid chi gal gwbod), felly maddeuwch unrhyw typos plis!
Fi'n hynod o ymwybodol nad oes sylwedd mawr i'r blogiade ma, a bod y mwyafrif yn llawn crap sgan fawr o neb ddiddordeb ynddyn nhw. Ond wy'n lico sgwenu nhw. Fi jest yn lico sgwenu rili. A na beth yw blog yn y pen draw. Sgwennu. Dyddiadur. Log o be sy'n mynd mlan yn dy ben di. A ma lot yn mynd mlan a rownd a rownd yn y mhen bach i.
Wy'n siŵr ma nid fi yw'r unig un sy'n cal sgwrs da rhywun, neu'n darllen neu'n gweld rhywbeth a ma fe'n troi a throsi yn y mhen i. A wedyn dipyn i beth ma na rhyw speech ne sgwrs yn dechre hware'i hunan mas yn y mhen. Ac yn aml ma rhaid i fi gal y sgwrs na da rhywun, lleisio'r geirie'n uchel er mwyn cal i gwared nhw. Weithie ma fe am rywbeth positif, a allai ddim cadw'r peth mewn. Weithie ddim, ac mewn achosion felny ma'n gallu bod yn lladdfa cadw fe mewn.(os chi'n meddwl bo fi'n gweud popeth sy'n dod i mhen i meddylwch to. A wy'n gwbod pa mor anghredadwy ma na am swnio i rai pobl!)
So beth ysgogodd fi i sgwennu heddi odd y ffenomenon bach na'n digwydd. Fel wedes i, wy ar y trên. Siwrne wy wedi gwneud ganwaith (wir) gyda gwaith, yn bennaf. A wy ddim byth rili di casàu'r siwrne. Wy wastad di joio trene. Di byw ar bwys y tracs pan on i'n fach a ma fe'n gysur onfath. A wy dal yn llu clywed y trene yn dod trw Grangetown, er bo fi cwta filltir o'r orsaf, a ma na'n neis.
Ta beth. Siwrne arall fyth ar y trên o Lunden gytre i Gaerdydd. A wy'n edrych mas drw'r ffenest i weld yr haul yn tywynnu ar gae euraidd o ŷd.
A nes i jest meddwl, iyffach fi'n lwcus. Fi'n cwyno bod pethe braidd yn anodd weithie (arian, gwaith, bywyd carwriaethol, ac yn bennaf oll brexit), ond iyffach gols dyw na'n ddim byd. Odi ma beth ma'n gwlad fach ni di neud yn gadel yr UE yn mynd i gael effaith enfawr ar lot fawr o bethe, ond wy'n uffernol o lwcus. Ma job a chartre a ffrindie a theulu da fi. Ac os ych chi'n darllen hwn, allai fetio bod yr un peth siwrofod yn wir i chi fyd (sori am y stereoteip, ond ma fe'n wir).
Ma angen bach o bositifrwydd yn y byd ar hyn o bryd. Be bynnag bo'ch barn ar wleidyddiaeth neu ganlyniad refferendwm (a fi'n wleidyddol niwtral yn hanfod fy swydd...) ma dyddie anodd a chymhleth o'n blaene ni. Ma dyletswydd arno ni i gadw'r ffydd. Ma digon da ni ymdalchïo ynddo fe fel Cymry. Y sdeddfod am un, a wy am un y dishgwl mlan yn enfawr i gael sdeddfod mewn lle godidog fel y Fenni, ac yn gobeithio am lwyddiant ysgubol a haeddiannol. A does neb erioed di cyflawni dim drwy fod yn negyddol ac yn drist.
Felly gadewch i ni godi llais dros ein gwlad fach ni a dweud fod gyda ni Gymru ry'n ni'n falch ynddi hi. A bod ni'n mynd i ddatrys probleme a chadw pen yn uchel a bod yn osgeiddig. Achos ni'n fflipin lwcus, ma rhaid i ni siarad dros y rhai llai lwcus.
Diolch am ryndo ar yr all-lif o'n ymennydd bach i! Byddai nol rywdro to da ryw rant ne braindymp arall.
Comments
Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.
Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).
Os posib i chi gysylltu â mi ar WilliamsL10@cardiff.ac.uk er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?
Cofion cynnes,
Lowri Williams
CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
Cardiff University | Prifysgol Caerdydd