Wel wy nol ar ôl prin pump dwrnod yn Efrog newydd, diwrnod o ddreifo bob pen plys bron dwrnod o ddreifo yn mynd a Cerith i'r maes awyr, whiw. DONE. Nes i rili joio. Bydde fe di neud mwy o sens mwn i flogio wrth mod i'n mynd mla, on WRTH GWRS dodd dim amser i neud na, nagodd e?!! Wel os y'ch chi di bod ar Facebook allwch chi weld yn lunie i (ma lot fawr iawn!) a allwch chi ddyfalu beth fuon ni'n neud. Statue of Liberty ac Ynys Elis, Museum of Modern Art, Metropolitan Museum of Art, Museum of Natural History, Central Park (gan gynnwys Strawberry Fields), trip mewn wch rown yr ynys, Guggenheim, Emipre State, Top of the Rock yn y nos (lan y Rockerfeller) yn ogystal â mynd i Times Square sawl gwaith a mynd i weld Avenue Q, odd yn hollol wych a doniol a briliant!

So na ni rili, dim lot mwy i'w ddweud. Nethon ni ddefnyddio CityPASS odd yn wych, a wy'n sicr yn ei awgrymu fe i unrhywun sy'n mynd i unrhyw rai o'r llefydd ma nhw'n gweithredu ynddo fe. Ma'i gwefan nhw'n esbonio beth yw e. Wy'n credu y byddwn ni'n prynu un ar gyfer dinasoedd y bydda i a Gwenllïan yn ymweld â nhw dros yr haf, achos ma nhw yn wir werth chweil!!

Ar ôl yr holl ddreifo na i Efrog Newydd wy wedi ychwanegu talaith arall i'n rhestr o daleithie i - Maryland, sy'n hynod hynod o bert, licen i fynd i ymweld pe bai amser! Un peth wy ddim wedi son amdano fe to, yw'r ffaith y nes i fynd i ymlwed â ffrindiw Operation Friendship yn Kearny un noson. Odd e braidd yn surreal a gweud y gwir, a nes i ddim gweld y bobl oedran ni odd yn y grwp da ni, mond rhai o'u mame nhw (Cindy yn bennaf). Ond wy'n bwriadu gweld Chelsea yn New Orleans (gobitho!!), a ymweld da Cindy to gan i bod hi'n byw yn Austin, TX sydd ar ein taith ni o gwmpas y wlad, bril!

Wel na'i gyd sda fi weud am nawr, bant a fi nol i ddiflastod y gwaith!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy