Dr Who

On i'n meddwl weden i rhwbeth am y Dr Who newydd, ond ddim fel rhan o unrhyw bostiad arall. Wy wedi bod bach yn rhy glyfar ac wedi llwyddo i lwytho'r rhaglenni o BBC iPlayer a'u gwylio nhw ar fy nghluniadur bach i.

So wy'n lico'r doctor newydd. Fel wy'n siwr bod lot o chi'n gwbod, all neb weud gair croes am David Tennant wrtha i, a wy'n dal i gredu mai fe yw yr ULTIMATE doctor, ond wy'n bles iawn da Matt Smith. Fi'n credu bod e'n neu joben wych a wy'n lico'i bortread e o'r doctor. Ond dyw'r straeon ddim *cweit* cystal â rhai Russell T. Davies. Dyn nhw jest ddim na. Ond wy'n joio. Wy ddim mor wael a Mam sy'n gytid bod hi braidd yn mwynhau nhw o gwbl, am ryw reswm wy'n gallu dishgwl heibio'r idealism sy'n diferu o'r straeon...falle achos mod i di bod yn byw yn Ohio am bron i flwyddyn yn gwylio teledu crap Americanaidd, sai'n siŵr.

Falle bod gormod o newid wedi dod ar yr un pryd. Doctor newydd, cymar parhaol newydd a phrif ysgrifennydd newydd, falle bod pethe wedi newid tam bach yn ormod i'r hen Mrs. Situation (Mam). Os rhywrai ohonoch chi Whowyr mas fan na'n teimlo r'un peth? Ne falle ma jest fi yw e'n cal Tennant withdrawals!! Er, wy ddim yn gwbod faint neiff na gario mlan ar ôl ffindo mas i fod e di bod yn neud voiceovers ar gyfer ymgyrch teledu Llafur, ond that's another thing.

Peth arall, nath unrhyw un arall chwerthin pan ddath y Daleks newydd mas? OK, odd e'n ridiciwlys o sgeri pan ddechreuon nhw siarad, ond pan ddethon nhw mas yn i lliwie bach pert newydd, odd e'n dishgwl mwy fel gwneuthuriwr ceir yn dangos y fleet newydd off in all its glory, nagodd e? Ond fel wedes i, unwaith iddyn nhw ddechre siarad, nol tu ôl i'r soffa a fi, y llais dwfn na braidd yn frawychus!

Falle welliff y straeon, ond am nawr wy'n ddigon hapus, a dyw e ddim wedi troi fi off to, falle achos bo fi'n lico fe Matt Smith ddigon, a rili ddim ishe pido lico Dr Who rili, sai'n siŵr. Ond wy'n gwbod ma'r unig ffordd i ffindo mas yw gwylio pennod wythnos nesa, ma'r weeping angels nôl, brrrr sgeri ne be?!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!