Efrog Newydd

Wrthi'n cwblhau cynlluniau Efrog Newydd gyda Cerith, wy ffili aros!! Ma'n debygol na fyddai'n siarad gyda fe nawr nes i ni gwrdd yn Cincinnati, so ni'n trial neud yn siwr bod popeth yn barod ac yn ei le! Ma da fi restr siopa i brynu stwff i ni gal byta yn y car ar y ffordd i NYC a ma Cerith yn neud yn siwr bod e'n cyradd Cincinnai'n saff gyda'i guide book!

Erbyn hyn yn ni wedi cynllunio gwneud lot o bethe, ond wy'n siwr bydd pethe'n newid wrth i ni grwydro ayb! Ond ni wedi prynu City Pass ac wedi talu ar ben hwna i fynd i liberty, a mynd i weld avenue q so digon i'w wneud. Ar ben ny wy'n gobitho gallu cwrdd lan da criw OF rywbryd pan fyddai na, gan bod Beth a Gus dal yn byw yn Kearny, Stephen yn byw yn Efrog Newydd, a ma Cindie yn ymweld ar yr un pryd!! Lwc pur!

so cyffro i'r macsimwm ar y funud!! wwwoooooo!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!