diflastod

Wel sdim lot da fi i wneud ar y funud, mond gwersi Cymraeg. Wy'n joio rheiny'n fawr, ond dy'n nhw ddim yn cymryd lot o'n amser i rili, dim mwy na'r awr wy'n dysgu mewn diwrnod yn anffodus. So wy nol i neud dim byd bob dydd, sy'n mynd ar yn nerfe i rili. Wy'n trial ffindo pethe i'w gwneud, ond unrhyw beth wy yn ffindo, mond rhywbeth bach yw e ta beth!! Dishgwl mlân i ddod nol, ond wedi gweud ny bydd hi yn od iawn dod nol i normalrwydd!!

Ma'r gwanwyn yn i anterth, a wy ddim yn credu bydd yr haf yn hir cyn dod. Ma paill ymhobman ma, a wy'n syffran gyda fe, ond ma'r antihistamines yn helpu so sdim pwynt achwyn!

Ma'r cynllunie ar gyfer yr haf yn dod yn u blaene'n dda, wedi bwcio gwesty i fi a Gwenllïan yn Cincinnati ar ôl iddi lanio, yn bennaf fel bod hi'n gallu ymarfer gyrru'r car byddwn ni'n rhentu cyn dreifo nol i fan hyn! Ni'n ystyried cal convertible, ddim yn mynd i fod yn lot drytach na'r ceir erill, ac oleia byddwn ni ddim yn colli mas ar yr haul trwy fod yn y car - bargen!! Ma angen i ni gynllunio'r daith yn fwy manwl, a phenderfynnu lle y'n ni'n mynd ac am faint o amser ayb ayb. Yn ogystal â ffindo llefydd rhad i aros yn yr ardaloedd lle fyddwn ni'n mynd!

Dim mwy da fi i'w ddweud ar hyn o bryd, OND os os da unrhyw un awgrym ynghylch lle i fynd yn nhaleithiau DE yr Unol Daleithiau, gadwch i fi wbod, pob awgrym yn help dife! JOLCH!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy