Gwaith etc

Wel, wy ar yn drydydd diwrnod yn y gwaith a dal heb wneud braidd dim ond darllen lan am hanes yr ardal ac ymchwilio ar y we. Bach o e-bostio a fêsbwcio, a dechre acownt Flickr. Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau rhai o'r llunie wy newydd ychwnaegu ar y postiad blaenorol. Os y'ch chi am weld mwy o lunie - ewch i www.flickr.com/photos/sioden, neu cadwch lygad ar fêsbwc www.facebook.com/sioden !!

Wy dal yn ddi-gar, ond gobeithio i'r nefoedd bydd e wedi sortio erbyn fory neu bydda i'n ddi-gar dros y penwythnos hir (hiihii!!). Toyota wy'n cal wy'n credu, a ma nhw fod i ddelifro fe draw i'r Brifysgol, ond ma dal stwff i sortio mas, a ma pobl yn bod yn araf, fel arfer! Gan bo ni'n gwitho 10 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau, bydde penwthnos 3 dwirnod yn y fflat yn ddiflas. Er wy'n gwbod bydd Jeanne yn gwahodd fi draw dros y penwthnos - wy'n twmlo braidd felse fi'n dibynnu lot arni ar hyn o bryd (ma hi'n casglu fi a mynd a fi nol o'r gwaith - er nad yw e lot mas o'i ffordd hi, bydd e'n neis cal bach o ryddid i fynd a dod fel wy'n moyn!)

Ddim yn siwr os y'ch chi'n gwybod ond wy off i'r Brifddinas (Washington D.C. i'r rhai ohonoch sydd ddim yn gwbod), i Wyl Werin y Smithsonian ar 30 Mehefin nes 4 neu 5 Gorffennaf (dylse Independance Day yn Washington fod yn wych os fyddwn ni dal na!!!). Eto, ddim yn siwr am beth fyddwn ni'n neud i gyd ond bydd da ni gornel ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol a chyfle i fwynhau'r atmosffer sen i'n meddwl!

Fory wy fod i gael cyfarfod gyda'r fenyw HR (on i fod i gael un dydd Llun ond odd hi wedi anghofio!!!), a wedyn cyfweliad gyda'r boi sy'n ysgrifennu daganiadau i'r wasg ar ran y Brifysgol, so falle byddai'ni hynod enwog yn yr ardal, os fyddai, wy'n addo pido anghofio amdanoch chi gyd!

Am drial tynnu mwy o lunie heddi - falle o gwmpas y campws etc. Yn sicr pan gaf i gyfel fe wna i dynnu llunie o cwn Jeanne i chi, ma nhw yn hynod o gorjys. Ma na gwn a chathod gyda'r fenyw sy'n berchen y fflat fyd - ond dy'n nhw ddim cweit mor gorjys. Wy wedi cael gwahoddiad i fynd i gael cnio gyda hi a'r cwpwl sy'n byw yn y fflat aral sy'n sownd i'r ty amser cino - so cawn weld fel fydd hwna!!

ciao am y tro!!

-------------------

On my third day in work by now and I still haven't done much. But it's very nice to have a chance to read about the history of those who came here, and ease into things! This means I've had a chance to keep in contact and set up the blog and upload photos to flickr. Hope you enjoyed the photos i added to the prvious blogging; if you want to see more, keep an eye on my flickr page and my facebook page if you so desire!

I'm still car-less but I hope this won't be for long as the weekend is fast approaching and I don't want to be either (a) dependent on my boss Jeanne, or (b) stuck in the apartment all weekend (all three days of the weekend I might add - we work 10 hours a day Monday-Thursday and Fridays off during the summer).

Not sure if I mentioned that I'm off to the Smithsonian Folklife Festival of Wales in Washington D.C. on the 30th. Coming back either on the 4th of 5th of July, and I REALLY hope it's the 5th, as Independance day celebrations in Washington I'm sure would be pretty amazing!!

I have a meeting with the HR woman tomorrow to hopefully sort out my pay etc, and afterwards I have an interview with the man who writes the press releases, so I very well may be famous by the end of the week, but don't worry I shan't forget you!

I'm also meeting the old couple who live in the other appartment today and my Landlady, should be interesting to say the least. Will try to take photos of the campus sometime to give you a feel of what it's like here. Cia for now though!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!