amish, tywydd, stwff

Sai'n credu bo fi wedi gweud unrhyw beth am yr Amish yn yr ardal, nage bod lot fowr i weud, ond wy ddim yn credu bo fi wedi gweud dim! Wel ma na boblogaeth itha mowr ohonyn nhw yn yr ardal (dim cyment â ny reit o nghwmpas i, ond ma nhw ambwyti). Wy ddim yn gwbod lot amdanyn nhw, ond wy'n gwbod bo nhw ddim yn defnyddio unrhyw dechnoleg modern, ma nhw'n gwsigo'n syml iawn, a ma nhw'n teithio ambwyti mewn ceffyle a thrapie. Dy'n nhw ddim yn mynd yn gloi iawn, ac yn aml dyw'r trap neu'r 'buggy' efl ma nhw'n galw nhw mas fan hyn, ddim yn edrych yn saff iawn i fi!! Wel fi'n siwr allech chi neud ych ymchwil ych hunan i'w credoau nhw ayb os ych chi'n moyn, on i jest moyn gweud i bod nhw ambwyti'r lle ma!


Odd y tywydd penwthnos ma yn ofnadw! On i wedi bwriadu treulio lot o amser mas tu fas yn bolaheulo yn y man bach tu fas i'r fflat ffindes i penwthnos dwetha, ond ar ôl bod i siopa yn Kroger yn Jacskon dydd Gwener (LOT LOT gwell na'r llefydd o gwmpas fan hyn, popeth yn neisach) odd hi'n overcast erbyn bo fi nol. Wedyn nath hi fwy neu lai bwrw glaw drw'r penwthnos, neu odd hi rhy lyb a rhyw dywyll i fynd mas ta beth odd bach yn annyoing a gweud y gwir!

Wy wedi cal y cêbl i'r laptop erbyn hyn, so wy wedi bod yn llwytho llwyth o bolediadau oddi ar iTunes. Yn anffodus dyw podlediad C2 Radio Cymru ddim yn hynod o dda. ma ishe i fi whilo am 'gwrando eto' ar raglenni radio Cymru wy'n credu. Wedi bod yn mynd mewn i'r Archers (siwr bod Mam yn browd) a pethe fel Point of View David Attenborough a chomedi gan Radio 4 a channel 4. Ma'n neisach na wocho'r tledi drw'r amser a ma rhai o nhw'n rili ddiddorol/doniol!

---------------

Hi there! Unfortunately, nobody reads this in English I don't think so I'm not going to bother translating, unless you want me to. Please leave a comment or send me and email or anything if you do read this in English!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw