Penwythnos a thâl!

Fe ges i bewythnos bach weddol dawel wthnos hyn. Mynd i weld Harry Potter, bach o goginio ac eistedd tu fas a mynd am wac. Dim nofio, odd Jeanne ddim yn twmlo'n hwylus dydd Gwenre, so on i'n meddwl bydden i ddim yn boddran nhw penwthnos ma! Wedi bod yn wocho Borthers and Sisters dros y penwythnos fyd - ma fe mor dda!! On i wedi gweld rhan fywaf o'r pennode o'r blan ond odd e'n gwd wocho nhw to gan mod i moyn gwylio'r gyfres i gyd - dishwgl mlan at yr instalments nesa nawr! Wy wedi ymuno â netflix (fel LOVEFiLM gytre), so wy'n llu wocho lot o beth am ddim lot o arian!

Weeeeel, y newyddion gwych heddi yw mod i newydd gasglu siec ar gyfer y bythefnos gynta ma (h.y. tâl 22-30 Mehefin) - so wy ddim yn hollol dlawd rhagor, hwre! Bydda i'n talu hwna mewn i nghyfrif cyn gynted â phosibl! Byddai hefyd yn cael yn nhalu ddiwedd y mis fel yr arfer, so alla i ddechre talu nghyfrif NatWest gytre nol!

Credu bo ni'n neud rhywbeth yn yr amgueddfa fory, ond ddim yn hollol siwr beth, nai gadw chi'n ypdeted!!

------------

Had rather a quiet weekend all in all. Just a bit of Harry Potter and cooking, some sitting outside and reading. Watched Brothers & Sisters (thanks to netflix, which is like LOVEFiLM at home) as well, extremly good, but I knew that already!

The really good news today, is that I've finally been paid for 22-30 June, which is a relief. And i'll be paid my regular wage at the end of the month, which will mean that I can start paying my own NatWest account at home back!

I think we're doing something in the museum tomorrow, but I'm not sure what, will keep you updated!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy