roadkill!

Un peth arall wy ddim yn credu mod i wedi gweud amdano fe yw'r roadkill a'r anifeilied gwyllt sydd ambwyti'r lle! Hyfryd wy'n gwbod.

I ddechre ma na Groundhog yn byw tu fas i'r swyddfa - ni'n gweld e'n bolaheulo pan ma hi'n braf a wedyn rhededg bant os os unrhyw un yn dod yn agos! Ma'n itha ffyni a gweud y gwir. Ma na hefyd wiwerod ac adar diddorol yn byw ambwyti'r campws.

Ma na arwyddio ym mhobman yn rhybuddio am geirw, a dy'n nhw ddim yn gweud celwydd. Chi'n gweld nhw wrth ochr yr hewl (rhei ifanc gan amla) ac yn y nos ma nhw'n rhedeg o gwmpas ac yn fwy tebygol o gal eu bwrw.

Wrth ddreifo i unrhywle wy'n gweld rhwbeth wedi'i ladd arochr yr hewl, twrch daear, drewgi, carw, cath, wiwer, racoon, cadno - ma'r rhestr yn itha hir!

Ma'r cwn sydd ambwyti'r lle braidd yn annoying fyd - newn nhw redeg mas i'r hewl atb y car, ac yn aml ma rhaid brêco er mwyn pido bwrw nhw, sy braidd yn sceri, withe newn nhw jest rhedeg lan ar bwys y car, ond chi dal ddim yn gallu i gweld nhw ac felly ma'n anodd dreifo hibo nhw o gwbl!!

Wel odd hwna briadd yn morbid ond on i'n sylweddoli bo fi heb weud ambwyti fe, so pidwch gweud bo fi heb worno chi!

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw