symud

Wel mai di bod yn gyfnod hir ers i fi flogio ddwetha blantos, a wedai'r gwir tho chi - wy wedi'ch gweld ishe chi, do wy wedi...y pump o chi sy mas na wedi bod yn aros yn eiddgar am fy mlogiad diflas nesaf. Na, a bod yn onest wy wedi gweld ishe cael sgwennu bach i vento!!

Ma lot wedi digwydd ers i ni gwrdd ddwetha, a wy ddim yn cofio popeth i gyd ond y peth mwyaf, a'r peth sydd wedi cymry y mhenwythnose i am y deufis diwethaf yw Y FFLAT. Nid fy fflat i, cofiwch, ond fflat fy annwyl frawd, Ieu, y bydda i'n mynd i fyw ynddi. Mae e wedi prynnu fflat deulawr yn Ferry Road, ac ry'n ni wedi bod yn rhoi cegni newydd ac ail-addurno'r holl le ers iddo fe 'gomplîto' ddechre Ionawr. Ma'r amser wedi dod nawr i symud mewn (o'r diwedd) a bydd e'n symud mewn fory (dydd Iau), gan i fod e'n chwarae gwesty i stag do ei ffrind dros y penwythnos. Wy wedyn fod i symud i mewn ddydd Sul, cyn belled a bod y ngwely i wedi cyrradd, a bod y stag do heb ddifetha'r lle'n gyfangwbl. So i'n dal yn anadl!! Ta beth, gewch chi gyd wahoddiad i'r parti twymo fflat pryd bynnag fydd hwnnw!

Ma na ddigonedd o bethe erill wedi bo dyn myn mlan yn fy mywyd, ond dim byd digon diddorol i'w rannu gyda chi ar hyn o bryd. Ar wahân i hyn - wy wedi penderfynnu rhoi tishenne lan am y grawys. Nage mod i'n byta lot ohonyn nhw, ond falle bydd y rhai fi'n byta, neu ddim yn byta fel bydd yr achos am y 40 niwrnod nesaf, yn gwneud gwahanieth.

Ma da fi rhai addewidion blwyddyn newydd hwyr hefyd. Wel a bod yn onest, addewid ôl-refferendwm yw e. Er mod i wedi bod yn ymgyrchu i ryw radde ar gyfer ymgyrch IE, wnes i ddim gweud digon, felly wy'n bendefynnol o ymgyrchu mwy ar gyfer etholiade mis Mai, ymha bynnag rhan o'r ddinas fydda i'n byw.

Cyfrinach bach i chi - fues i'n gwylio y ffilm Patagonia nos Sadwrn diwethaf yn y Chapter. Un o fy hoff ffilmie of all times. A wy nawr rili rili ishe mynd i Batagonia. rili rili. SO os os unrhywun ishe'n hala i i Batagonia i weithio neu unrhywbeth, bring it on, nes i syrfeifo yn Rio Grande aka back of beyond, hicksville, ohio, uda am flwyddyn, so bydde patagonia lle ma'r bobl yn groesawgar ac actually yn deallam Gymru a'r Gymraeg yn ffantastig. na ni fi di gweud e nawr!!

tan toc

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!