Cymru365
So ma'n llun cyntaf i wedi mynd ar y safle. Ac un pawb arall hefyd fi'n credu erbyn hyn. Y rheol yw, un llun y dydd, wedi'i dynnu ar y diwrnod hwnnw. Dim thema, dim amser penodol i bostio, jest un llun. Rhaid i fi fod yn onest, dynnes i ddim lot o lunie heddi i ddewis y gore, ond fe fuodd y peth ar yn meddwl i itha lot o'r dwrnod. Ac o ganlyniad wy'n siŵr mod i wedi cael ysbrydoliaeth ar gyfer sawl llun posibl arall. Sai'n siŵr am 364 arall gwahanol ac amrywiol cofiwch, ond na ni, sdim ishe dodi'r cart o flan y ceffyl. Y peth gyda fi ar hyn o bryd yw mae'r camera gore sy da fi yw'n iPhone. Ma fe'n well na nghamera digidol 'run of the mill i' ac ma na apps arno fe i greu effeithie diddorol a bach yn wahanol i bob llun. So am nawr, yr iPhone fydd hi! Wy yn gobeithio y gwna i ddatblygu'n sgilie ffotograffig i dros y flwyddyn, ma fe'n rhywbeth wy wedi bod ishe gwneud ers sbel. On i wedi meddwl cymryd cwrs, ond wrth gwrs wy erioe...