India?!
Dyw hi dal heb cweit sinco mewn bod ni off i India FORY. Ma'r trefniade i gyd wedi eu gwbeud ar ein rhan ni, a'r cwbl sydd angen i ni wneud yw troi lan i ddal bws am 630 bore fory! Gan bod na gyn lleied o waith wedi bod i ni wneud (a ma hyn yn anarferol i control freak sy'n trefnu popeth fel arfer...), heblaw am ddysgu darne a phacio'n hynod o gall, ma popeth dal yn bach o freuddwyd mewn gwirionedd. Siwr bydd popeth yn dechre cico mewn pan fyddwn ni ar ein ffordd fory! Ni newydd orffen ein hymarfer olaf cyn mynd a'r cwbl sydd i'w wneud nawr yw neud yn siŵr bod popeth yn y cês a gosod y larwm gyfer y bore!