Posts

Showing posts from January, 2010

Penwythnos annisgwyl!

Es i lan i Columbus penwythnos ma, on i ddim yn gwbod bo fi'n mynd nes bwyti 4:30 pnawn dydd Gwener. Pam wy'n ych clywed chi'n gofyn - wel i ddathlu Penblwydd Lowri, sy'n astudio yn OSU yn Columbus. Fi'n rili rili falch bo fi di mynd gan bod penwythnose'n gallu bod yn ridiliwlys o ddiflas ma, so odd e'n neis cal siarad a danso a chal cwpwl o ddrincs yn hytrach nag aros gytre yn wocho teli fel wy fel arfer yn neud ar y penwthnos. Sad I know, ond that's the state of affairs pan ti'n byw fan hyn ! Fel on i'n ame, odd rhoi ngharden banc ti ôl i'r banc fel bod tab da fi ddim y syniad gore yn y byd. Nes i lwyddo gwario $96. Ddim i gyd arna i, ond ma fe dal yn ridicilys o wario! Ma rhaid bo fi wedi mynd yn cresi phrynnu drincs i bawb, sawl gwaith!! fe wnes i brynu sawl drinc i'r byrffde gyrl yn llawn haeddiannol wrth gwrs. Dodd dim byd arbennig arall da fi i weud, jest moyn gadel i bawb wbod bo fi'n dal yn fyw ac yn cofio blogio dife!!!

Shambles llwyr

Wel ma fe braidd yn crap bo fi heb flogio ers bron i fis, ond wy'n ymddiheurio'n fawr iawn i'r rheiny ohonoch chi sydd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am y postiad nesa! (ma'r sarcasm yn diferu'n fanna, chi'n gweld e?!) Ta beth, odd bod gytre dros yn dolig yn hollol crap. A on i byth yn credu weden i na. Pidwch a nghamddeall i, nes i rili RILI joio gweld pawb ond odd na sawl cwmwl du dros y cyfan. Nath popeth ddechre, os wy'n cofio'n iawn, pan fu rhaid i fi dalu $50 am jeco'n ail fag mewn, er bo fi'n sicr bod dim rhaid i fi dalu (troi mas dodd dim rhaid i fi dalu, ond ches i byth o'r arian nol, ond NES i gael 4 voucher diod gwerth $7 i'w gwario ar yr awyren odd yn oce da fi!!). Wedyn prynu 3 potelaid o alcohol yn JFK (on i'n hedfan Cincinnati, JFK, Amsterdam, Caerdydd), mewn bag wedi'i selio gan feddwl y bydde popeth yn iawn i fynd a nhw'r holl ffordd trwyddo i Gaerdydd. Wrth fynd i'r gât yn Amsterdam - na don i ddim yn cal