Penwythnos annisgwyl!

Es i lan i Columbus penwythnos ma, on i ddim yn gwbod bo fi'n mynd nes bwyti 4:30 pnawn dydd Gwener. Pam wy'n ych clywed chi'n gofyn - wel i ddathlu Penblwydd Lowri, sy'n astudio yn OSU yn Columbus.

Fi'n rili rili falch bo fi di mynd gan bod penwythnose'n gallu bod yn ridiliwlys o ddiflas ma, so odd e'n neis cal siarad a danso a chal cwpwl o ddrincs yn hytrach nag aros gytre yn wocho teli fel wy fel arfer yn neud ar y penwthnos. Sad I know, ond that's the state of affairs pan ti'n byw fan hyn!

Fel on i'n ame, odd rhoi ngharden banc ti ôl i'r banc fel bod tab da fi ddim y syniad gore yn y byd. Nes i lwyddo gwario $96. Ddim i gyd arna i, ond ma fe dal yn ridicilys o wario! Ma rhaid bo fi wedi mynd yn cresi phrynnu drincs i bawb, sawl gwaith!! fe wnes i brynu sawl drinc i'r byrffde gyrl yn llawn haeddiannol wrth gwrs.

Dodd dim byd arbennig arall da fi i weud, jest moyn gadel i bawb wbod bo fi'n dal yn fyw ac yn cofio blogio dife!!!

Comments

LlioLlio said…
ti fatha Lois yn y flwyddyn gynta - yn prynu drincs i BAWB am ddim rheswm - wedyn yn i ddifaru o y bore wedyn wrth sylweddoli gymaint odd hi di'i wario!!!
mistar Jones said…
joio joio joio! Ma'r googlemap 'na o lle ti'n byw yn RIDIC!! Could it BE anymore green!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!