Posts

Showing posts from 2012

Prynnu Tŷ

Ma'n chwar a finne (fi'n siŵr bo chi'n ei chofio i o anturiaethau llianoni ), wedi penderfynnu prynnu tŷ gyda'n gilydd. Ni wedi ffeindio un ac mae'r cynnig arno fe wedi'i dderbyn. Y cwbl sy'n rhaid i ni wneud nawr yw aros i bopeth fynd drwodd. Ma hwna yn swnio'n ddiflas iawn i bawba arall (ma fe yn spos) ond on i'n meddwl sen i'n rhannu'r wybodaeth ma gyda chi gyda r ffurf blogiad bach, gan nad ydw i wedi blogio ers cyhyd. Gan y bydd y ddwy ohonom ni'n byw da'n gilydd beth bynnag sy'n digwydd, mae e hefyd yn ygfel i'ch rhybuddio chi efallai y daw win blog yn ôl i fodolaeth. Anturiaethau dwy chwaer yn troial cydfyw yng Ngrangetown. (os chi'n byw yn y cyffinie, wotshwch mâs!). Ynghanol sgwennu'r postiad ma, wy newydd fynd yn ôl a darllen dros ein blog ni - yn benodol Cwôts y dydd a chân y dydd. Ges i igl fach! ta beth, na ddigon o ddiflastod am nawr.

Diolch?

Wy ddim yn gwbod pryd ddechreuodd hyn ond wy'n dueddol o weud 'diolch' wrth bobl, yn hytrach na 'thank you'. Sai'n neud e i fod yn boen a fi'n cynryd bod pobl yn gwybod bo fi yn diolch iddyn nhw, er falle nad ŷn nhw'n siarad Cymraeg. Wy'n llythrennol yn gwbeud drw'r amser; os odw i'n prynu rhwbeth neu os os rhwyun yn dal y drws ar agor i fi. Nawr fi di dechre meddwl withe, odi pobl yn meddwl bo fi'n bod yn rŵd neu'n od? Neu os da bobl yng Nghymru ddigon o grap ar y Gymrag i wbod mai 'diolch' yw 'thank you'? Os na rywun arall yn neud hyn? A beth y'ch chi'n meddwl…rŵd/od neu dim problem o gwbl?

Faint wyt ti'n wisgo?

Chydig wythnose yn ôl yn y swyddfa daeth y sgwrs at werth y dillad rodd pawb yn wisgo. Yn bennaf o ddatganiad un aelod o'r tîm ei f/bod (mae aros yn ddienw yn hanfodol welwch chi) wedi gwario £150 wrth siopa'n ddiweddar ac wedi cael llond trol o ddillad (wir i Dduw, loads). Felly dyma'r cwestiwn yn cael ei ofyn 'beth yw gwerth popeth ry'ch chi'n ei wisgo heddi?'. Felly mas a'r pen a'r papur a chofnodi gwerth (amcangyfrif) pob pilyn o ddillad, plys esgidiau, bag (odd gan bob un o ni fag) ac acsesorïau (watsh, gemwaith, sbectol haul ayb ond ddim sbectol gweld). Dodd pwy odd yn gwisgo'r fwyaf o arian ddim yn sioc ond rodd y cyfanswm yn aruthrol (odd e dros £3000), lle rodd pawb arall tua'r un lle. Ers bryd ny ma'r pwnc di codi sawl gwaith, a ma fe'n gallu bod yn itha diddorol, a fi'n credu y basech chi'n synnu weithie cyment ry'ch chi'n ei wisgo! Felly - faint y'ch chi'n wisgo heddi, os cai fod mor hy a gofy...