Faint wyt ti'n wisgo?

Chydig wythnose yn ôl yn y swyddfa daeth y sgwrs at werth y dillad rodd pawb yn wisgo. Yn bennaf o ddatganiad un aelod o'r tîm ei f/bod (mae aros yn ddienw yn hanfodol welwch chi) wedi gwario £150 wrth siopa'n ddiweddar ac wedi cael llond trol o ddillad (wir i Dduw, loads).

Felly dyma'r cwestiwn yn cael ei ofyn 'beth yw gwerth popeth ry'ch chi'n ei wisgo heddi?'. Felly mas a'r pen a'r papur a chofnodi gwerth (amcangyfrif) pob pilyn o ddillad, plys esgidiau, bag (odd gan bob un o ni fag) ac acsesorïau (watsh, gemwaith, sbectol haul ayb ond ddim sbectol gweld). Dodd pwy odd yn gwisgo'r fwyaf o arian ddim yn sioc ond rodd y cyfanswm yn aruthrol (odd e dros £3000), lle rodd pawb arall tua'r un lle.

Ers bryd ny ma'r pwnc di codi sawl gwaith, a ma fe'n gallu bod yn itha diddorol, a fi'n credu y basech chi'n synnu weithie cyment ry'ch chi'n ei wisgo!

Felly - faint y'ch chi'n wisgo heddi, os cai fod mor hy a gofyn?!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!