True Crime Obsessive
Felly fel addewais i, dyma restr o fy hoff true crime (beth YW'R Gymraeg am hwn?!) Serial The original a probably still the best, wel y gyfres gyntaf o leiaf. Os chi'n lico podcasts a heb wrando ar serial, sai'n siŵr lle chi di bod rili. Dechreuwch gyda cyfres 1, obvs. My favorite murder Karen Kilgariff a Georgia Hardstark, dwy fenyw o Galiffornia yn trafod llofruddiaethe. Simple as. Chi un ai yn mynd i lico nhw neu ddim. Ffomat syml, y ddwy yn adrodd stori yr un, gyda chydig o chat drwyddo fe'i gyd. Ma nhw'n mental ac yn lysh. Crime Junkie Lot o ymchwil yn mynd mewn i adrodd hanesion llofruddiaethe ac ati. Yn bersonol sai'n 100% struck ar y ddwy sy'n cyflwyno, ond ma'r ffordd o adrodd y stori'n dda ac yn drefnus. End of Days Podcast am David Koresh a'i ddilynwyr. Yn benodol y bobl o Brydain aeth draw i Waco, Texas a fu fawr na hefyd. Podcast da iawn gan BBC Radio 5 Live. Manhunt: Finding Kevin Parle Podcast (gan 5 Live) ongoing am chwilio am ...