True Crime Obsessive

Felly fel addewais i, dyma restr o fy hoff true crime (beth YW'R Gymraeg am hwn?!)

  1. Serial
    The original a probably still the best, wel y gyfres gyntaf o leiaf. Os chi'n lico podcasts a heb wrando ar serial, sai'n siŵr lle chi di bod rili. Dechreuwch gyda cyfres 1, obvs.
  2. My favorite murder
    Karen Kilgariff a Georgia Hardstark, dwy fenyw o Galiffornia yn trafod llofruddiaethe. Simple as. Chi un ai yn mynd i lico nhw neu ddim. Ffomat syml, y ddwy yn adrodd stori yr un, gyda chydig o chat drwyddo fe'i gyd. Ma nhw'n mental ac yn lysh. 
  3. Crime Junkie
    Lot o ymchwil yn mynd mewn i adrodd hanesion llofruddiaethe ac ati. Yn bersonol sai'n 100% struck ar y ddwy sy'n cyflwyno, ond ma'r ffordd o adrodd y stori'n dda ac yn drefnus. 
  4. End of Days
    Podcast am David Koresh a'i ddilynwyr. Yn benodol y bobl o Brydain aeth draw i Waco, Texas a fu fawr na hefyd. Podcast da iawn gan BBC Radio 5 Live.
  5. Manhunt: Finding Kevin Parle
    Podcast (gan 5 Live) ongoing am chwilio am Kevin Parle sydd 'on the run' wrth yr heddlu am lofruddio Liam Kelly yn Lerwpl yn 2004. 
  6. Beyond reasonable doubt
    Wedi cysylltu â Manhunt, eto gan 5 Live (who knew bod nhw'n gwneud podcasts cystal?!), am  farwolaeth Kathleen Peterson. Llofruddiaeth, damwain, tylluan?! Fi'n gwybod beth fi'n meddwl ddigwyddodd....
  7. Casefile
    Serious deepdive mewn i achosion o lofruddiaeth a throseddau eraill. Weithiau ma lot gormod o fanylion after the effect. Ond ma llais y boi yn eithaf soothing, felly chi est yn gallu gadel iddo fe olchi drosto chi! Basen i ddim yn credu bod angen bingeo hwn - ond ewch i wrnado ar bennod 144 (rhannau 1, 2 a 3!!!) sydd am Dennis Nilsen a'i lofruddiaethau yn Muswell Hill.
So na ni, amrywiaeth o bodcasts wy'n gwrando neu wedi gwrando arnyn nhw. 

Tro nesaf, bydd hi'n hen bryd i fi rannu fy hoff bodcasts Cymraeg gyda chi, achos mae na ddigonedd, ac ma nhw'n ffab.


Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!