Posts

Showing posts from 2011

Tua'r Gogledd

Image
Heddi wy'n teithio yn y car da Angharad a Catrin lan sha'r gogledd ar gyfer priodas ffrind fory. Ma hi'n ail ar hugain o Ragfyr ac ma hi'n lawiog a braidd yn niwlog ymhobman. Nawr falle bod hyn achos bo fi di cal hanner potelaid o win da cino, ond wy'n dwlu ar Gymru fach fel gwlad. Hyd yn oed yn llwyd i gyd yn y glaw, ma na rhywbeth arbennig amdani. Ta beth wy'n hynod ddiolchgar nad yw'r tywydd yn wael neu ma na bosibilrwydd mawr na fydden ni'n gallu gwneud y siwrne lan (neu'r siwrne nol lawr!). Er gwaetha'r A470 a mod i'n ishte ynghefn y car gyda'r dillad i gyd, wy'n mwynhau'r siwrne, ac nid achos y cwmni am unwaith (achos mewn gwirionedd wy'n mwynhau siwrneiau hir yn y car achos ma'n amser sing song a chat!). So cwestiwn sda fi i chi yw beth yw'ch hoff olygfa chi o'r ffordd yng Nghynru? Dim jest oddi ar yr A470, ond un sy'n codi gwallt y gwar neu jest yn codi gwên. Ma sawl un da fi.

Ond doedd e'n ddydd da

Image
Ma cyment o ddyddie yn toddi mewn i'w gilydd a chyment o bethe crapllyd yn gallu digwydd gyda'i gilydd ma amgen dathlu'r dyddie da. Ac i fi odd heddi wirioneddol yn ddiwrnod da. Falle fod rhai ohonoch chi'n gwbod mod i'n trial colli pwyse. Ma'r cwpwl wthnose dwetha ma wedi mynd bach tw pot. Withes i'n rili galed wthnos ma a cholli tri phwys a hanner. So on i'n hapus!! Bring on wthnos nesa weda i!! Yn ail ges i nghayniade gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru am yr arholiade wnes i nol ym mis Hydref. Ma'r pedwerydd (!!) tro on i'n sefyll yr arholiade a do'n i ddim yn hynod hyderus gan nad odw i'n cyfieithu per se ar hyn o bryd. Ond, daeth y canlyniade heddi ac fe basies i'r ddwy arholiad! O'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mega chuffed rhaid gweud. Nes i sgrechen a ma rhaid bod y bobl yn y fflat lawr llawr n meddwl bo fi'n nyts! So na ni wedi rhannu fy niwrnod da â chi. Ma'n neis cal teimlo hap...

Failure

Image
Nes i dynnu llun base wedi bod yn wych ar gyfer postio ar cymru365. Heblaw am y ffath bod yn headphones i yn y ffordd. Fail. Co'r llun ta beth, gallwch chi weld y potensial gobitho. Na beth ti'n cal o fod mewn rysh i gyrradd gwaith!!

Cymru365

So ma'n llun cyntaf i wedi mynd ar y safle. Ac un pawb arall hefyd fi'n credu erbyn hyn. Y rheol yw, un llun y dydd, wedi'i dynnu ar y diwrnod hwnnw. Dim thema, dim amser penodol i bostio, jest un llun. Rhaid i fi fod yn onest, dynnes i ddim lot o lunie heddi i ddewis y gore, ond fe fuodd y peth ar yn meddwl i itha lot o'r dwrnod. Ac o ganlyniad wy'n siŵr mod i wedi cael ysbrydoliaeth ar gyfer sawl llun posibl arall. Sai'n siŵr am 364 arall gwahanol ac amrywiol cofiwch, ond na ni, sdim ishe dodi'r cart o flan y ceffyl. Y peth gyda fi ar hyn o bryd yw mae'r camera gore sy da fi yw'n iPhone. Ma fe'n well na nghamera digidol 'run of the mill i' ac ma na apps arno fe i greu effeithie diddorol a bach yn wahanol i bob llun. So am nawr, yr iPhone fydd hi! Wy yn gobeithio y gwna i ddatblygu'n sgilie ffotograffig i dros y flwyddyn, ma fe'n rhywbeth wy wedi bod ishe gwneud ers sbel. On i wedi meddwl cymryd cwrs, ond wrth gwrs wy erioe...

llun y dydd...

Yn dilyn sgwrs ar twitter wythnos diwethaf, wy'n mynd i drial cymryd rhan mewn project o dynnu un llun y dydd am flwyddyn , gan ddechre fory. Ma na griw o ni'n mynd i fod yn cyfrannu i'r wefan cymru365.posterous.com Ar hyn o bryd wy'n cael trafferth mawr yn postio i'r safle so wy'n gobeithio y bydda i'n gallu sortio fe mas cyn dechre fory! Ma'r postiad ma yn rybudd y bydda i'n blogio yn fwy rheolaidd gobeithio yn y flwyddyn sydd i ddod wrth i fi drial ffindo testunau ac ysbrydoliaeth. iddi

Hon

Am ryw reswm, ar noswyl Gêm fwy Cymru i fi erioed ei gweld, ma 'Hon' gan TH Parry Williams di bod yn mynd tr mhen i. Dim syniad pam, ond co hi i chi HON Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn, Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn. A phwy sy’n trigo’n y fangre, dwedwch i mi. Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi  chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd; Mae digon o’r rhain, heb Gymru, i’w cael yn y byd. Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grwn Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn. Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên, Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên. A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll. Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir; Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir, Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’ Mae lleisiau a drychiolae...

gwylie ahoy!

So'r postiad dwetha odd cyn i fi wneud arholiade Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru nol ym mis Ebrill. Wy wedi bwriadu blogio sawlgwaith, ac a bod yn onest da chi a da fi gwpwl o flogiade wedi'u drafftio, ond wy heb wneud dim to fel chi'n llu gweld. So ma canlyniade cymdeithas cyfieithwyr fod i gael eu hala mas wthnos hyn, so cawn weld beth fydd y canlyniad... Ond beth bynnag fydd y canlyniade ma'r haf yn llaw gwychder yn dechre nawr. Dydd Mawrth ni'n mynd i weld Take That  yn stadiwm y mileniwm. Ethon ni ddwy flynedd yn ôl a odd e'n WYCH, so wy'n dishgwl mlaen at hwn Nos fawrth. Wedyn nos Wener ma hi'n drip i Ganolfan y Mileniwm i weld yr hynod wych Avenue Q . Es i weld e llynedd ar Broadway yn Efrog Newydd da Cerith, a wy ffili aros i weld e to nos Wener gyda fe a Barti. A wedyn dydd Sdwrn, y cyffro mawr mis ma - mynd i Fwdapest gyda rhai o aelodau Côr Caerdydd i ganu ym mhremiere darn newydd Karl Jenkins mae e wedi'i ysgrifennu i'r hen gerdd...

Wel if I ain't a translator...

Wel, so wy ddim yn gyfieithydd, nid dyna yw'n swydd i mwyach, dim ers i fi ddychwelyd i'r gwaith o America mwy neu lai. Teitl yn swydd i yw Cynorthwy-ydd yr Iaith Gymraeg, a be wy'n gwneud yw cynorthwyo gyda gwaith cynllun yr iaith Gymraeg, ac yn cyfieithu weithie i helpu'r cyfieithwyr mas, os os angen. Y broblem sda fi ar hyn o bryd yw mod i'n mynd i wneud arholiadau Cymdeithas y Cyfieithwyr dydd Sadwrn. Dau arholiad, i'r Gymraeg ac i'r Saesneg. A wy ddim cweit yn siŵr pam mod i wedi dweud mod i'n moyn gwneud y ddau arholiad. Ta beth wy wedi, so os oes gan unrhyw un unrhyw gyngor, sen i'n HYNOD ddiolchgar!!

symud

Wel mai di bod yn gyfnod hir ers i fi flogio ddwetha blantos, a wedai'r gwir tho chi - wy wedi'ch gweld ishe chi, do wy wedi...y pump o chi sy mas na wedi bod yn aros yn eiddgar am fy mlogiad diflas nesaf. Na, a bod yn onest wy wedi gweld ishe cael sgwennu bach i vento!! Ma lot wedi digwydd ers i ni gwrdd ddwetha, a wy ddim yn cofio popeth i gyd ond y peth mwyaf, a'r peth sydd wedi cymry y mhenwythnose i am y deufis diwethaf yw Y FFLAT . Nid fy fflat i, cofiwch, ond fflat fy annwyl frawd, Ieu, y bydda i'n mynd i fyw ynddi. Mae e wedi prynnu fflat deulawr yn Ferry Road, ac ry'n ni wedi bod yn rhoi cegni newydd ac ail-addurno'r holl le ers iddo fe 'gomplîto' ddechre Ionawr. Ma'r amser wedi dod nawr i symud mewn (o'r diwedd) a bydd e'n symud mewn fory (dydd Iau), gan i fod e'n chwarae gwesty i stag do ei ffrind dros y penwythnos. Wy wedyn fod i symud i mewn ddydd Sul, cyn belled a bod y ngwely i wedi cyrradd, a bod y stag do heb ddifetha...