Posts

Showing posts from October, 2020

Pryd gewn ni ganu nesaf?

Image
Na'i gyd sy ar y meddwl i ar hyn o bryd yw canu. Ddydd Sul on i'n gwrando ar Robat Arwyn a ddechreuodd e whare côr yn canu un o ddarne Karl Jenkins, a gorffes i droi fe bant ar ôl rhyw bymtheg eiliad achos odd e'n atgoffa fi gyment o'r math o beth fasen ni'n canu yn y côr. Odd e'n mynd i ypseto fi gomod. A falle bod rhai ohonoch chi'n meddwl bod hwna'n pathetic, ond na ni. Fel na ma hi. Fi jest ishe gwbod pryd gewn ni ganu go iawn nesaf. Canu go-iawn fi'n golygu. Dim canu côr rhithiol (sy'n lyfli ac yn lot o hwyl, a ma fe'n wych gweld ffrwyth llafur pawb yn y pen draw), a dim ymarferion dros zoom (sydd ffrancli yn torri  nghalon i ). Canu go iawn. Cystadlu mewn steddfod leol. Cystadlu yn y steddfod gen. Perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Perfformio mewn neuadd bentre chwyslyd. Canu yn y capel. Canu yn y pyb. Canu yn tŷ Rich a Pritch o gwmpas y piano ar ôl sesh. Canu unrhywle ond ar ben yn hunan yn y tŷ. Unrhywle. Unrhywle.

Gwisga dy fasg

So. Co ni nôl yn lockdown. Wel fi yn o leia, a rhan fwya o'r wlad. Ma'n gyfnod anodd ac od. Fi di darllen sawl peth yn ddiweddar am bwyti'r 'six month wall' neu'r 'six month fatigue'. Mae e'n gyffredin pan fod rhywun yn mynd drwy gyfnod fel hyn (unrhyw gyfnod sy'n achosi trawma fel ma hwn yn), i gyrraedd pwynt tua chwe mis mewn lle ma'r awydd i ddianc yn oruwch na dim. Ac yn anffodus allwn ni ddim dianc rhag hwn. Ni wedi cael haf hyfryd i drial dianc chydig bach, ond nawr ma fe nôl i fod yn ful blown. A ma hi'n mynd i fod yn anodd. Ma hi'n barod yn anodd. Ma'r tywydd gachu ma ni'n cael penwthnos ma ac ers wythnos ddim yn hepl o gwbl. Ond ni dal yn gallu cwrdd tu fas (dan gazebos cadarn!), ac mae e'n hynod bwysig ein bod ni dal yn neud. Mae na fusnese bach, tafarndai annibynnol, a bwytai yn mynd i sdryglo dros ycyfnod ma, fel ŷn ni am sdryglo. Fi'n credu bod hi'n bwysig ein bod ni'n eu cefnogi nhw gyment ag y ga...