bron ar y ffordd
I'r rhai o chi'n sy'n cadw trac ar ddifelopmynts y daith sydd i ddod, ma Gwenllïan a fi wedi bwcio 3 gwesty hyd yn hyn. Dau ar yr atciwal daith ac un yn columbus y noson ma hi'n cyrradd. Ma hi'n hedfan mewn i Cincinnati, ond mond dwyawr yw e o fan na i Golumbus (llai o amser na me'n cymryd i ddod nol i fan hyn), ac felly ry'n ni'n mynd lan na am noson i weled Ms Lowri Sion a champws gwych Ohio State University. yaaa! Y gwestai erill ry'n ni (fi) di bwcio yw yn Memphis a New Orleans. Y ddau wel o fewn ein byjet o $100 y noson, a ma'r un yn N'Orleans reit ar Bourbon Street, bargen! Mond bwcio gwesty Nashville sydd angen nawr cyn i ni adel, a byddwn ni'n SORTed! WOOP WOOP