Mis i fynd!
Wy ddim yn mynd i sôn dim am yr etholiad diweddar, achos i fod yn onest ma fe'n hynod depresing. Hefyd, sen i'n dechre sôn am bopeth wy ishe gweud, elen i mlan am lot gormod o amser. Dichon yw gweud mod i ddim yn dishgwl mlan at ddod nol i etholeth las, a Chymru lot rhy las i'n nhast i. Gobitho wneiff hyn rhoi cic i'r Cymry i ddechre mynnu mwy o bwere i'r Cynulliad a phleidleisio am bobl sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn y Cynulliad na.
Ta beth, mis i heddi bydd Gwenllïan Haf yn cyrradd Cincinnati a bydd ein taith ni o gwmpas y wlad ma'n dechre. Ma dal lot da ni i'w wneud cyn ny, rhaid bwcio car i'w rhentu a phrynnu tocynne tren. Gan na fydd Gwenll yn cal dreifo gan na fydd hi'n 21 nes bod ni'n cyrradd gytre, mond fi bydd yn cla dreifo, felly rhaid odd ailfeddwl peth o'r dreifo, a ni di ffindo llwybr Amtrak fydd yn mynd a ni i lle ni'n moyn mynd, so ma popeth yn gret, jest gwneud y trefniade sydd nawr!!!
Llefydd cyntaf ar y rhestr yw
Nashville, Memphis, New Orleans, Houston a Austin. Egseitid!!!
Comments