Y daith

Wel ma pethe'n rili dechre cwmpo mewn i'w llefydd nawr ar gyfer fy nhaith i a Gwenllïan mis nesa! Ni wedi bwcio car o Cincinnati i Denver ac o Sacramento i LA a thocyne tren o Denver i Sacramento. Ma'r daith yn mynd rhywbeth fel hyn. Ond byddwn ni'n dal tren o Denver i Salt lake City, a wedyn o Salt Lake City i Sacramento, ond na'r daith mwy neu lai.

Llefydd i aros yw'r gamp nesa. Yn amlwg byddwn ni'n moyn bod y gwestai mor rhad a phosibl, a chan nad oes cyment o hostels yn America ag sydd yn Ewrop, fydd hi ddim yn hawdd ffindo llefydd rhesymol sydd ddim mas ynghnaol unman. Achos, yn amlwg fyddwn ni hefyd am fod yn weddol agos i ganol y draf/ddinas er mwyn blasu cyment o'r naws lleol ag sy'n bosibl. Felly, os os d UNRHYWUN awgrym am ble i gal y 'deals' gore, wy'n gwrando!! Wy'n gwbod bod lastminutetravel.com yn gwneud dels da, a ma na gynllun da hotels.com, lle y'ch chi'n bwcio 10 nosn a chal yr 11eg am ddim, so falle bod hwna'n opsiwn, ond ry'n ni'n moyn safio cyment o airan a phosibl ar lefydd i aros er mwyn gallu mynd i fwy o bethe ymhobman!!

Ma rhaid gweud bo fi ffili'n deg aros nes bod y daith yn dechre, ma CYMENT da ni i wneud a gweld, byddwn ni'n shattered erbyn cyrradd nol, ond bydd hon yn daith i'w chofio ffor shor!!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!