Pleidleisio
Wel ma hi'n ddydd Iau, ma hi'n ddiwrnod pleidleisio gytre. Erbyn i fi gyradd gwaith odd y manau pleidleisio wedi bod ar agor ers chwech awr, a byddan nhw'n cau pan fydda i'n cwpla yn y gwaith heno ma. Mam sydd a gofal o mhledlais i, hi yw mhrocsi i. Wy'n credu byddan nhw'n pleidleisio heno ma sen i'n meddwl. Gobitho bo fi di trysto'r person cywir....hah!
Licen i'n fawr wylio'r canlyniade'n dod mewn, ond fel ych hi'n gwbod, heb y we gytre, ma hwna'n itha anhebygol. Ond wy'n benderfynnol o aros yn y swyddfa am sbelen fach ar ôl gwaith i gal y teimlad. Falle nai ffindo rhywun sy'n mynd i fod lan drw'r nos ac sy'n fodlon cadw fi yn y lŵp, cawn weled!
COFIWCH BLEIDLEISIO!
Fi rhy nyrfys i flogio mwy nawr. Mwy wedyn falle.
Comments